Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anfonwyd y wybodaeth a geisiai y Pwyllgor Cenhadol Seisonig, a chafwyd atebiad boddhaol. Y prif amcan o gyhoeddi yr Hysbysiadau Cenhadol yn Yr Eurgrawn ydoedd, ac ydyw, fod iddynt gael eu dar llen yn rheolaidd yn y Cyfarfod Gweddi Cenhadol y nos Lun cyntaf yn mhob mis. Blaenorir pob rhifyn o'r Eurgrawn, er y blynyddoedd cyntaf oll hyd yn bresennol, a darlun un o'r prif weinidogion Wesleyaidd Seisonig neu Gymreig. Wele restr o'r gwahanol olygwyr a fu ar Yr Eurgawn—o'r cychwyniad hyd yn bresennol:—Yn y flwyddyn 1809, Parch. John Bryan, ac eraill; 1810, Parch. Robert Roberts; 1811, Parch. John Jones; 1812, Parch. Hugh Carter; 1813—6, Parchn. David Rogers, David Jones (cyntaf), a David Jones (ail); 1817—20, Parch. Hugh Hughes; 1821—3, Parch. Edward Jones (trydydd); 1824—6, Parch. William Evans; 1827—30, Parch. John Williams (ail); 1831—8, Parch. Edward Jones (trydydd); 1839—41, Parch. Thomas Jones, D.D.; 1842—4, Parch. Isaac Jenkins; 1845—6, Parch. William Rowlands; 1847——8, y Parch. David Evans (ail); 1849—50, Parch. Henry Wilcox; 1851, Parch. John Jones; 1852, Mr. John Jones (Idrisyn); 1853—8, Parchn. W. Rowlands, a Henry Parry; 1859—63, Parch. Samuel Davies; 1864—75, Parch. William Davies, D.D.; 1875—85, Parch. Samuel Davies; ac er y flwyddyn 1885 hyd yn bresennol (1892) y mae yr olygiaeth yn llaw y Parch. Robert Jones (B), Bangor. Gwelir, yn ol yr uchod, er yr holl gyfnewidiadau, na bu ond un lleygwr erioed yn golygu y cylchgrawn hwn. Wele eto restr o'r rhai a fuont yn argraphu Yr Eurgawn—Yn y blynyddoedd 1809—11, Mr. Richard Jones, Dolgellau; 1812, Mr. B. Goakman, Llundain; 1813—6, Mr. Thomas Cordeax, Llundain; 1817—23,