Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Seren Gomer, 1818.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gan y Parch. Joseph Harris (Gomer), a daeth y rhifyn cyntaf ohono allan ar Ionawr 28ain, 1818. Deusi allan, ar y cyntaf, fel cyhoeddiad pymthegnosol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Daeth allan yn y dull hwn am ddwy flynedd, ac yn nechreu y flwyddyn 1820, daeth allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Parhaodd Gomer i'w olygu a'i gyhoeddi hyd Ebrill, 1825, a throsglwyddwyd ef i'r Parch. D. D. Evans, Caerfyrddin, a Mr. John Evans, argraphydd, &c. Parhaodd y Parch. D. D. Evans mewn cysylltiad â'r cyhoeddiad hyd ddechreu y flwyddyn 1835, ond eglur yw fod cysylltiad golygyddol rhwng Mr. Samuel Evans, awdwr y Gomerydd, ag ef, yn Tachwedd, 1827, a chydnabyddir ef fel "golygydd" yn Mai, 1830. Dywedir, ar wyneb-ddalen y gyfrol am y flwyddyn 1834, ei fod yn "gyhoeddedig gan y Parch. D. D. Evans, W. Evans, a'i Gyfeillion." Ymddengys fod y Parch. D. D. Evans a Mr. W. Evans yn gyd-gyhoeddwyr, a bod y Parch. D. D. Evans a Mr. Samuel Evans yn gyd-olygwyr hyd ddiwedd y flwyddyn 1834, ac felly daliai y Parch. D. D. Evans gysylltiad â'r olygiaeth ac a'r argraphwaith, ond mae yn amlwg mai ar Mr. Samuel Evans y disgynai rhan drymaf yr olygiaeth. Enwir Mr. W. Evans a'i Gyfeillion fel yr unig gyhoeddwyr am y blynyddoedd 1835-6. Cyhoeddwyd y gyfrol am y flwyddyn 1837 gan y Meistri Joshua Wilkins a Samuel Evans. Prynwyd Seren Gomer, yn niwedd y flwyddyn 1837, gan y Parch. Hugh William Jones, Caerfyrddin, ac efe a fu yn ei gyhoeddi o ddechreu y flwyddyn 1838 hyd ddiwedd y flwyddyn 1850. Argraphwyd ef blynyddoedd 1842—4 gan Mr. D. Williams, Caerfyrddin, a'r blynyddoedd 1845—56 gan ei weddw—Mrs. Alice Williams. Daeth hawl-ysgrif Seren Gomer, yn niwedd y flwyddyn 1850, yn feddiant i "wyth-ar-hugain o weinidogion y Bedyddwyr, heblaw