Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyr lleyg, gydag awdurdod i ychwanegu at eu rhif." Y golygwyr yn y cyfnod hwn, yn y flwyddyn 1854, ac i bob golwg mai yr un rhai oedd er dechreu y flwyddyn 1851, oeddynt y rhai canlynol:—"Duwinyddiaeth a Chofiantau," Parch. J. Rowe; "Henafiaethau a Chelfyddydau," Paroh. W. Roberts; "Barddoniaeth," Parchu. E. Jones ac R. Ellis; "Hanesion," Parch. N. Thomas a Mr. W. M. Roberts; "Gofyniadau," &c., Parch. O. Michael. Dengys wyneb-ddalen y rhifyn am Ionawr, 1856, fod yr olygiaeth yn parhau yr un fath, gyda'r eithriad nad oedd neb ond y Parch. R. Ellis (Cynddelw) ei hunan yn golygu y farddoniaeth. Argraphwyd y gyfrol am y flwyddyn 1857 gan Mr. Josiah Thomas Jones, Aberdar. Cafodd y cyfrolau am y blynyddoedd 1858-60 eu hargraphu gan Mr. Daniel Joshua Davies, Abertawe, ac ar glawr y rhifyn am Ionawr, 1859, ceir yr olygiaeth yn sefyll fel y canlyn :-"Duwinyddol a Chofiantol," Parch. J. Rowe; "Celfyddydol a Henafiaethol," Parch. W. Roberts; "Barddonol," Parch. R. Ellis (Cynddelw); "Gofyniadau," Parch. O. Michael; "Tonau, Crybwyllion," &c., Parch. Benjamin Evans. Ceir yr un enwau am y flwyddyn 1860, oddigerth fod y Parch. J. Rowlands, Cwmafon, yn gofalu am y "Duwinyddol a'r Cofiantol," yn lle y Parch. J. Rowe. Ceir, modd bynag, ar ddiwedd y flwyddyn 1860, fod anhawsder wedi codi nad allai y pwyllgor a'r golygwyr ei ragweled, a'r canlyniad a fu i Seren Gomer sefyll, a bu hyn yn ddiwedd arni yn ei ffurf fisol i ddyfod allan. Ond, ar ol ystyried pobpeth, penderfynwyd ei dwyn allan yn chwarterol, a pharhaodd felly am yn agos i bedair blynedd. Daeth deg rhifyn allan yn ystod y blynyddoedd 1861—3, y rhai a argraphwyd gan Mr. W. Morgan Evans, Caerfyrddin. Golygid y Rhyddiaeth, &c., gan y Parchn. J. Rowe, Risca, ac Evan Thomas, Casnewydd, a'r Farddoniaeth gan y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg),