Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanelli. Cyhoeddwyd ychydig rifynau yn y flwyddyn 1864, y rhai a argraphwyd gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar. Pris Seren Gomer o ddechreu y flwyddyn 1818 hyd ddiwedd y flwyddyn 1859, ydoedd chwe' cheiniog y rhifyn, ond yn nechreu y flwyddyn 1860 gwnaed gostyngiad, a daeth ei bris yn bedair ceiniog. Ceir, yn nechreu y flwyddyn 1880, fod cyfres newydd o'r Seren Gomer yn cael ei chychwyn gan Undeb Bedyddwyr Cymru, ac o'r adeg hono hyd y flwyddyn 1886, bu dan olygiaeth y Parch. E. Roberts, D.D., Pontypridd, ac o'r flwyddyn 1886 hyd yn bresennol (1892) golygir ef gan y Parch. H. Cernyw Williams, Corwen. Argrephir ef, ar ran yr Undeb, gan Mr. Jenkin Howell, Aberdar. Daw allan yn ddau-fisol, a'i bris ydyw chwe' cheiniog. Er fod y cyhoeddiad hwn wedi ei gychwyn gan un o'r Bedyddwyr, ac wedi parhau i gael ei olygu a'i gyhoeddi gan rai oedd yn Fedyddwyr, a diau mai Bedyddwyr oedd cyfangorph ei ysgrifenwyr drwy y blynyddoedd, er hyny, ceir fod llawer o'r elfen genedlaethol a chyffredinol ynddo, eto ystyrid ef bob amser, i raddau helaeth, fel yn perthyn i'r Bedyddwyr; ond, ar yr un pryd, ymddengys mai yn y flwyddyn 1880, pan y cychwynwyd ef gan Undeb Bedyddwyr Cymru, y daeth i ddal cysylltiad swyddogol a'r enwad, fel y cyfryw, a gellir edrych arno bellach fel eiddo yr enwad.

Y Dysgedydd, 1821; Yr Annibynwr, 1856.—Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf, fel math o gynllun (specimen) o'r Dysgedydd, yn Tachwedd, 1821, ond ni ddaeth allan yr un rhifyn ohono am Rhagfyr y flwyddyn hono. Ond, ar ol y rhifyn a ddaeth allan yn Ionawr, 1822, hyd yn bresennol, y mae wedi parhau i ddyfod allan yn rheolaidd bob mis. Cychwynwyd ef gan nifer o bersonau yn perthyn i'r Annibynwyr. Golygid ef, o'r cychwyniad hyd ddiwedd y flwyddyn 1852, gan y