Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau. Yn nechreu y flwyddyn 1853, cymerwyd gofal yr olygiaeth gan y Parchn. W. Rees, D.D., Lerpwl; W. Williams (Caledfryn); R. Parry (Gwalchmai), Llandudno; Hugh Pugh, Mostyn; W. Ambrose (Emrys), Porthmadog; a T. Roberts (Scorpion), Llanrwst. Efallai y dylid dyweyd, yn y cysylltiad hwn, fod cyhoeddiad arall o'r enw Yr Annibynwr wedi ei gychwyn yn niwedd y flwyddyn 1856, dan nawdd pwyllgor perthynol i'r Annibynwyr. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Dynion ieuainc yr Annibynwyr, yn benaf, oeddynt ei gychwynwyr a'i brif gefnogwyr, a hwy oeddynt yn ysgrifenu fwyaf iddo. Ysgrifenydd y pwyllgor oedd Mr. C. R. Jones, Llanfyllin, a chauddo ef y cyhoeddid ac yr argrephid ef. Gellir enwi y diweddar Barch. J. Thomas, D.D., Lerpwl, fel un o'i brif hyrwyddwyr, a bu ef yn ei olygu am flynyddoedd. Arwyddair Yr Annibynwr, yn ol ei wyneb-ddalen, ydoedd "Ffydd, Gobaith, Cariad," ac elai yr enw oddiwrtho at gynnorthwyo gweinidogion oedranus. Yn nechreu y flwyddyn 1865, modd bynag, unwyd Yr Annibynwr gyda'r Dysgedydd, ac ychwanegwyd at yr olygiaeth y Parchn. J. Thomas, D.D., Lerpwl; Josiah Jones, Machynlleth; E. Williams, Dinas ; R. Thomas (Ap Vychan), Bangor; D. Rowlands, B.A., Llanbrynmair; a D. Milton Davies, Llanfyllin. Ceir, yn nechreu y flwyddyn 1873, fod yr olygiaeth wedi ei gosod ar y Parchn. W. Ambrose (Emrys), ac R. Thomas (Ap Vychan), Bangor. Cafodd y Parch. E Herber Evans, D.D., Caernarfon, yn y flwyddyn 1877, ei ychwanegu fel cyd-olygydd a'r Parch. R. Thomas (Ap Vychan), a bu y ddau yn cyd-lafurio hyd farwolaeth Mr. Thomas, yr hyn a gymerodd le Ebrill 23ain, 1880. Oddiar yr adeg hono hyd yn bresennol, y mae yr olygiaeth yn gwbl yn llaw y Parch. E. Herber