Mi brofais y llwm bryfyn,—a gwn i
Mai gwan oedd. 'R wyn gofyn
Mewn cyffraw, beth ddaw o ddyn
A folai'r fath drychfilyn?G.B.
ODLAU LLYM AR DDADL Y LLO
Yn araf, fardd, anwiredd—a haerwch,
A'ch geiriau sy'n ffoledd;
Dewis "silod" di-sylwedd
Ni wnâi Lloyd i ni yn wledd.
Nid rhyw swp o natur sâl—oedd ein llo
Ddeuai'n llwyth i'ch ardal;
Y cwestiwn yw, ddaeth cystal
O lo tew am leied tâl?
Nid dyn a bryn "bryfyn" am bres—yw Lloyd,
I ladd peth mor afles;
A ar briffordd ei broffes,
Myn lo iawn er mwyn ei les.I.B.
ATEB
Rhy annuwiol, 'r hen Ioan,—nodi "llwyth,"
Gwneud "llo tew" o'r bychan;
E wnaethai bro fel nyth brân
Y tro i guddio'r truan.
Diferu mae dy glodforedd—yn llif
Am y llo bach llymwedd;
Moli o hyd, sôn am "wledd,"
Ha! goblyn, dyma gabledd!G.B.