Jac Puw yn gwmni wedyn—a 'dwn i ddim be' fuasai wedi digwydd."
"Tewch da chi!" meddai'r ffarmwr. Ac mi roedd o am ddwad yn i ôl i'r fan yma, oedd o?"
Bu'n rhaid dywedyd yr hanes yn frysiog, ac yna dywedodd yr Arolygydd y buasai yn anfon cerbyd i gyrchu Huw Llwyd adref ar unwaith.
"Raid i chi ddim, Mr. Bifan," meddai'r ffarmwr. ""Rydw i wedi dwad ataf fy hun yn dda iawn erbyn hyn. Os ca' i gerdded efo chi i lawr, mi fedra' i wneud yn iawn."
Er fod Aubrey a'r Arolygydd braidd yn amau a oedd cystal ag y mynnai ei fod, felly y trefnwyd. Yr oedd Huw Llwyd yn wannach nag a feddyliodd, fel y gwelodd pan ddechreuodd gerdded, ond gyda help y plismyn gwnaeth yn weddol, a chyn iddynt fyned ymhell iawn daeth dau o'i weithwyr i'w cyfarfod, wedi bod yn chwilio amdano ar hyd y nos ond heb syniad ym mha le i ddechrau. Yr oeddynt wedi taro ar y ddau blisman yn mynd a Jac Puw i lawr ac wedi cael y trywydd ganddynt hwy.
"Y mae'n ddrwg gen i am yr heffer las," meddai Aubrey wrth ffarwelio â Huw Llwyd. "Y mae honno yn golled."
"Roeddwn i wedi anghofio popeth amdani hi," meddai'r ffarmwr, gan ysgwyd llaw. "A tydi hynny'n rhyfedd yn y byd pan gofiwch chi am bopeth a ddigwyddodd."
DIWEDD.