Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn sydyn am gwmni'r gwartheg eraill ar ffridd Eithinfryn. Ag ochenaid o flinder a siom, sylweddolodd Huw Llwyd nad oedd olwg am yr heffer las hyd yn hyn.

Ac yna tynnwyd ei sylw gan rywbeth arall yn symud yng nghyfeiriad pen isaf Cwm Dwyffrwd. Ni buasai wedi gweled y symudiad hwnnw o gwbl oni buasai fod y gwydrau ganddo; wrth edrych trwyddynt gwelodd gip ar symudiad lle'r oedd cefnen o graig ar fin y gors. Craffodd, ac yna, er ei syndod, gwelodd dri o ddynion yn dyfod i'r golwg o gysgod y graig. Yr oeddynt yn cerdded ychydig bellter oddi wrth ei gilydd, hyd y medrai ef weled o'r pellter hwnnw, fel pe'n chwilio am rywbeth.

"Be' yn y byd sy'n dwad â rheina yma?" meddai wrtho ei hun. "Mae'r hen soldiars yna wedi mynd ers blwyddyn neu ragor, a 'does dim dieithriaid byth yn dwad y ffordd yma hyd y gwelais i. Hylo, y mae'r haul yn tywynnu ar fotymau un ohonyn' nhw—mae o'n debyg iawn i Huw Huws y plisman o Nant y Fron, ond be' wnâi hwnnw yn y fan yma?

Erbyn hyn yr oedd y dynion i'w gweled yn glir, a chanfu Huw Llwyd fod yno un dyn â botymau gloywon, a dau arall, hyd y gwelai ef, mewn dillad cyffredin. Gwelai hwynt yn gwasgaru ar ôl dyfod heibio'r gefnen graig, fel pe buasent yn symud ymlaen yn rheolaidd i ymosod ar elyn neu i geisio amgylchu rhywbeth. Yr oedd ef ei hun yn sefyll ar grib y llethr ac yn amlwg i'w weled yn erbyn yr awyr, ac yn y man gwelodd un o'r dynion yn sefyll ac yn cyfeirio ato ac yn tynnu sylw'r lleill. Safodd pob un o'r tri, a gwelodd Huw Llwyd ddau ohonynt yn gwneud yr un peth ag yntau, sef rhoddi