Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cuddio am sbel, ac yr oedd Mr. Aubrey a minnau yn meddwl y gallasai fo drio croesi'r ffordd yma am y sir nesaf a phorthladd Caerwen."

"Hwyrach y dylai Mr. Llwyd gael ychwaneg o eglurhad," meddai Aubrey. "Sylwaf eich bod yn galw Puw yn llofrudd, Mr. Llwyd, ond gwyddoch nad yw wedi sefyll ei brawf hyd yn hyn. Y mae'n wir ei fod yn cael ei gyhuddo o saethu William Morgan a'i fod wedi ei gymryd i'r ddalfa, ond 'does dim wedi ei brofi hyd yn hyn."

"Hwyrach hynny," meddai Huw Llwyd, pherswadith neb fi nad y fo a wnaeth. 'Roedd yno ddigon o dystion o'i deimlad o at William Morgan, druan, ac adyn drwg a diffaith oedd Jac erioed. Ond sut yn y byd y gadawsoch chi iddo fo ddianc?"

Gwgodd yr Arolygydd; yr oedd yn amlwg fod y cwestiwn yn ei gyffwrdd ar le tyner.

"Hanner lladd Pyrs, y plisman oedd yn mynd ag o i garchar ar ôl bod o flaen yr ynadon, wnaeth o," meddai yn gwta, "a 'does dim sicrwydd y bydd Pyrs, druan, byw. Beth bynnag am William Morgan, 'does dim amheuaeth ynghylch yr hyn a wnaeth o i Pyrs. Y mae o'n adyn peryglus."

"'Rydw i 'r'un farn â chi yn gymwys," meddai Huw Llwyd, "ond welais i yr un olwg arno fo na dim tebyg iddo fo. 'Rydw i wedi craffu yn o fanwl i bob man am fy mod i'n chwilio am yr heffer, ac mi 'rydw i'n bur siwr nad oedd yna yr un dyn ond mi fy hun ar y mynydd heddiw."

A 'does gynnoch chi ddim syniad i ba gyfeiriad yr aeth yr heffer?" meddai Aubrey. Am ryw reswm neu'i