gilydd, ymddangosai fel pe'n cymryd cryn ddiddordeb yn helynt heffer orau Huw Llwyd.
"Dim syniad," meddai Huw Llwyd, " ond fy mod i'n rhyw feddwl y gallai hi fod wedi dwad y ffordd yma. 'Welsoch chithau ddim tebyg iddi hi, 'debyg geni, wrth ddwad i fyny o'r Nant?"
Naddo'n wir, Mr. Llwyd," meddai'r Arolygydd, ac yr ydan ninnau, fel chwithau, wedi bod â'n llygaid yn agored."
Wel," meddai Huw Llwyd, " waeth imi heb fynd i lawr y ffordd yna felly. "'Rydach chi am fynd dros Gefn y Graig, y mae'n debyg, ond 'tydw i ddim yn meddwl y gallai'r heffer fynd y ffordd honno."
"Mynd yn ôl wnewch chi 'rwan, Mr. Llwyd?" meddai Aubrey.
"Wel, ie, am wn i," meddai'r amaethwr, " ond mi af heibio'r Bwlch Glas a'r hen chwarel ar fy ffordd. Hwyrach fod yna ryw siawns i bod hi wedi crwydro i'r fan honno."
"Chwarel?" meddai Aubrey. "Oes yma chwarel?"
"Wedi bod," meddai'r Arolygydd. "Mi fu Chwarel Bwlch Glas yn un o'r rhai prysuraf yn y sir ar un adeg, ond y mae hi wedi peidio gweithio ers blynyddoedd lawer y garreg wedi mynd yn rhy ddwfn iddyn nhw fedru'i chyrraedd hi, neu felly y clywais i."
"Ie," meddai Huw Llwyd, "'does yno ddim ond y lefelydd a thomennydd rwbel rwan, ac y mae o'n lle digon peryglus i anifeiliaid. Gorau po gyntaf imi fynd yno, hefyd a gobeithio y cewch chithau hyd i'ch pry' yn bur fuan. 'Tydi o ddim yn beth braf o gwbwl meddwl fod Jac Puw â'i draed yn rhydd yn yr ardal yma."
Trodd i gychwyn drachefn ar ei ymchwil flin, ond cyn