iddo fynd ddau gam oddi wrth y plismyn brysiodd Aubrey ar ei ôl.
"Am funud, Mr. Llwyd," meddai. "Hoffwn roddi un gair o rybudd i chi. 'Wyddom ni ddim i ba gyfeiriad y mae'r dyn yma wedi mynd. Y mae'n sicr o fod mewn cyflwr peryglus pe deuai rhywun ar ei draws. Byddwch yn ofalus; peidiwch â rhedeg i berygl."
Edrychodd Huw Llwyd yn amheus braidd ar y gŵr siriol a edrychai mor ddifrifol yn awr. Ond gwelodd yn y fan ei fod o ddifrif a theimlodd ias o anesmwythyd. "Ydach chi'n meddwl mai mynd adre ar fy union fuasai'r gorau imi?" gofynnai. " Ydach chi o ddifri' yn meddwl ei fod o yn beryglus?"
"Ydwyf," oedd yr ateb difrifol. "Buasai popeth yn iawn pe buasai un neu ddau o'r gweision efo chi. Ac i ddweud y gwir, y mae diflaniad eich heffer yn poeni tipyn arnaf. Ydach chi'n siwr nad oes a wnelo Jac Puw rywbeth â hynny?"
"'Dwn i ddim, neno'r tad," meddai Huw Llwyd, mewn syndod, "ond 'rydach chi'n peri imi anesmwytho braidd. Mynd adra fyddai orau imi, a dwad â rhai o'r bechgyn efo mi i chwilio eto yfory."
"'Dewch chi ddim heibio i Chwarel Bwlch Glas felly?" meddai'r Arolygydd, a oedd erbyn hyn wedi dyfod i'w hymyl.
"Fuaswn i ddim yn mynd, pe buaswn i yn ei le o," meddai Aubrey.
Gwenodd Huw Llwyd, yn anesmwyth braidd. "Na," meddai, "adre' yr â i rwan-ond y mae hi'n arw o beth na chai dyn deimlo'n ddiogel ar y mynydd, o bob man yn y byd. Pnawn da i chi, foneddigion."
Trodd ar ei sawdl a dechreuodd frasgamu ar hyd y