Prawfddarllenwyd y dudalen hon
llethr creigiog ar hyd yr hwn y daeth i gopa Crib y Rhiw. Am ysbaid safodd Aubrey gan edrych arno yn pellhau ac yn troi heibio i'r graig a'i cuddiodd o'i olwg. Yna trodd yn ôl at y plismyn.
"Nid wyf yn siwr o gwbl ein bod yn gwneud yn iawn," meddai yn fyfyrgar.
"Beth sydd yn eich meddwl chi, Mr. Aubrey?" meddai'r arolygydd. ""Tydach chi erioed yn amau fod Huw Llwyd yn gwybod rhywbeth am drywydd Jac Puw?"
"Nac ydwyf," meddai Aubrey," O, nac ydwyf. Ond mi hoffwn fod yn sicrach nag ydw i nad ydi Jac Puw yn gwybod dim am ei drywydd o."