Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II

CERDDODD Huw Llwyd yn gyflym ar hyd y llechwedd. Yr oedd gartref yn y mynydd ac yn hen gynefin â'i gerdded ar ei ben ei hun, ddydd a nos. Ond heddiw, am y tro cyntaf yn ei oes, teimlodd fath o anesmwythdra. Ni buasai yn cyfaddef fod arno ofn, ond eto buasai'n dda ganddo pe buasai ganddo gwmni neu pe buasai wedi dyfod â Pero'r ci defaid gydag ef. Methai ddyfalu sut y bu iddo anghofio Pero; y tebyg oedd ei fod mewn cymaint pryder ynghylch yr heffer werthfawr fel na chofiodd hyd yn oed am ei gi, y ci yr oedd mor falch ohono ac a oedd yn gymaint cyfaill iddo. Erbyn hyn yr oedd distawrwydd y mynydd wedi mynd yn feichus.

Wrth frasgamu i gyfeiriad Rhiw Goch a chilfach Llyn Hafren, dechreuodd Huw Llwyd feddwl am yr hyn a wyddai ac a glywsai am Jac Puw. Nid oedd y meddwl hwnnw yn hyfryd iawn. Gŵr a ddaeth i'r ardal yn gymharol ddiweddar, ynglŷn â rhyw waith, oedd Puw. Yn fuan iawn dechreuwyd ei amau ynglŷn â'r lladrata a fu yn rhai o'r ffermydd. Ni allai neb brofi dim pendant, ond yr oedd y sibrydion ar led yn dew ac yn denau. Mewn un achos yr oedd y lleidr—pwy bynnag oedd—wedi torri i dŷ unig yng Nghwm Pen 'Rallt ac wedi hanner lladd yr hen wraig a oedd yno yn byw ar ei phen ei hun. Pan ddaeth honno ati ei hun ni allai fynd ar ei llw mai Puw a fu yno, ond yr oedd yn amau hynny. Y diwedd fu iddo gael ei ddal un noson gan un ffarmwr, sef William Morgan, a oedd, gyda'i ddau was, yn