Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwylio, ac yn yr ymdrech i ddianc saethodd Puw William Morgan. Ond yr oedd y ddau was wedi ei adnabod y tro hwn, rhoddwyd y plismyn ar ei drywydd a daliwyd ef yn fuan iawn ar ôl iddo ddianc o'r ardal. Bu o flaen yr ynadon a bwriwyd ei achos i'r frawdlys, ond llwyddodd i gael ei draed yn rhydd, fel y dywedodd Aubrey. "Ac yn awr," meddai Huw Llwyd wrtho'i hun, yn bur anesmwyth, "y mae yn crwydro yn rhywle ar y mynyddoedd yma ac yn ffyrnicach nag erioed, y mae'n sicr."

Bu bron iddo anghofio am yr heffer las wrth feddwl am y llofrudd, ond bob hyn a hyn safodd i edrych trwy'r gwydrau rhag ofn ei bod yn y golwg yn rhywle. Nid oedd yr olygfa mor eang o'r fan lle'r oedd yn awr ag o ben Crib y Rhiw; yr oedd y cwm yn culhau a'r bryniau fel pe'n cau amdano. Ar un ochr yr oedd rhesi o glogwyni, heb fod yn uchel iawn ond yn ddigon serth i wneud diwedd ar ddyn neu anifail a syrthiai drostynt. Ar yr ochr arall yr oedd y moelydd yn llyfn ac yr oedd yn hawdd gweled popeth a oedd ar hyd eu llethrau. Defaid oedd yno gan mwyaf, gydag ambell geffyl a fu allan mor hir nes mynd yn wyllt i bob pwrpas. Edrychai Huw Llwyd yn graff ar y rhai hynny; gwyddai y gallai ambell geffyl fod yn beryglus o dan amgylchiadau felly. Ychydig iawn o wartheg a oedd yn y golwg, a gwyddai yntau gwartheg pwy oeddynt. Nid oedd yr heffer las yn eu plith.

Cyn bo hir daeth at le ar y llechwedd a oedd wedi ei gau i mewn—neu esgus o'i gau—oddi wrth weddill yr ochr. Yr oedd y pyst coed yn hen, a'u hanner wedi pydru, ac yr oedd llawn cymaint o'r gwifrau a oedd rhyngddynt yn gorwedd ar lawr ag a oedd yn parhau i