Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwynfryn yn eu cynefin yn y fan honno. Ond gwyddai hefyd nad oedd yr un fuwch na heffer nac eidion glas ymhlith gwartheg Llwynfryn, ac yn y mwd o'i flaen yr oedd tusw o flew glas.

"Blew oddi ar yr heffer las, mi gymra fy llw," meddai wrtho'i hun. Sut yn y byd mawr y daeth hi i le fel hyn?"

'Doedd dim rhyfedd ei fod yn gofyn; prin y buasai neb yn disgwyl i'r anifail mwyaf barus droedio ar hyd y llechwedd hwnnw. Yr oedd yn wlyb ac yn serth, ond heblaw hynny nid oedd yn arwain i le a fuasai'n debyg o ddenu anifail. Yr oedd y mynydd-dir agored fel pe'n darfod ar ael y rhiw; wedyn yr oedd yno nifer o glogwyni heb fod yn fawr nac yn uchel ond yn ddigon o ddisgyniad i'w gwneud yn amhosibl i fuwch, na hyd yn oed ddafad, eu tramwy. Yn y gwaelod yr oedd hafn gul a dofn y Bwlch Glas. Tyfai ychydig goed yn y fan honno, coed criafol a chyll a drain yn bennaf, fel na ellid gweled llawr yr hafn o'r lle yr oedd Huw Llwyd. A'r ochr draw i'r nant, ar wyneb y bryn gyferbyn, yr oedd hen chwarel Bwlch Glas a'i thomennydd rwbel a oedd yn dechrau tyfu'n rhedyn ac yn frysglwyn erbyn hyn.

Gwyddai Huw Llwyd nad oedd yno fawr o damaid i anifail o gwmpas y chwarel, ac nad oedd yn hawdd iawn myned o'r hafn unwaith yr eid yno ond ar hyd hen inclên y chwarel, ac yr oedd honno weithian yn malurio a braidd yn beryglus i'w cherdded. Yr oedd yno hen lwybr, hefyd, ond ychydig iawn o dramwy a oedd ar hwnnw. Ond yr oedd yn sicr yn ei feddwl ei hun mai blew yr heffer goll a welai wrth ei draed yn y mwd a phenderfynodd nad oedd dim i'w wneud ond dilyn y trywydd.