Aeth yn ei flaen yn ofalus, a sylwodd fod ôl traed yr heffer i'w weled o hyd, yn llithro weithiau ar le serth iawn ac yn gliriach dro arall. Unwaith safodd yn sydyn wrth dalcen un o'r clogwyni bychain a chraffodd ar y ddaear. Tybed ei fod wedi gweled ôl troed dyn yn y llaid? Nid oedd yn sicr; yr oedd llithriad yn y fan honno ac yr oedd yn anodd dywedyd. Ond tybiai fod yno ôl esgid, a gwasgodd ei wefusau.
"Tybed," meddai wrtho'i hun, "fod rhywun wedi ceisio ei dwyn?" Ond yr oedd yn adnabod ei gymdogion ar y mynydd bob un ac ni allai gredu y buasai'r un ohonynt yn gwneud peth o'r fath.
"Does dim i'w wneud," meddai, rhwng ei ddannedd, "ond mynd ymlaen bellach," ond gofidiai unwaith yn rhagor na buasai wedi dyfod â Pero gydag ef.
Gyda thipyn o ymdrech llwyddodd i gyrraedd gwaelod y nant yn ddiogel. Yr oedd ffrwd fechan yn rhedeg ar hyd y gwaelod ac yr oedd math o agoriad, prin y gallech ei alw yn llwybr, yn y coed. Yr oedd y ddaear yn feddal yn y fan honno hefyd, ac yr oedd ôl traed yr anifail yn myned ymlaen. Dilynodd Huw Llwyd ef, gan graffu ar dde ac ar aswy rhag ofn bod yr heffer wedi troi i'r coed yn rhywle. Ofnai, wedi gweled ei bod wedi dyfod i'r fath le, y gallai fod wedi torri ei choes ac yn methu dyfod oddi yno. Gwaeddodd "Drwi bach" unwaith neu ddwy ond nid oedd yno ddim i'w glywed ond y garreg ateb yn rhywle ar y llechwedd draw. Yr oedd rhyw ddistawrwydd trymllyd yn y lle, yn wahanol iawn i awel iach y mynydd agored. Yr oedd y ffrwd fechan yn sibrwd wrth fyned dros rwbel yr hen chwarel, ond dyna'r cwbl a glywai Huw Llwyd.