Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r diwedd daeth at ochr arall yr hafn ac at fan lle'r oedd y coed yn darfod a llanast rwbel y chwarel yn dechrau. Ac yno o'i flaen, fel genau ogof, yr oedd agoriad y lefel fawr, y twnel a dorrwyd dan y ddaear er mwyn cael at y llechfaen yng nghrombil y mynydd.

Nid oedd yn lle deniadol o lawer er ei fod yn dwnel uwch na'r cyffredin. Yr oedd yn dywyll i mewn; tyfasai rhedyn a grug o gwmpas yr agoriad gan gadw'r golau rhag cyrraedd ymhell i'r twll. Yr oedd y rheiliau a fu gynt yn gwneud ffordd haearn i'r gwagenni wedi hen rydu, y coed oddi tanynt wedi pydru a malurio, a'r rheiliau eu hunain wedi eu llusgo o'u lle. Yr oedd dŵr yn diferu o ben yr agoriad ac yn casglu yn byllau ar y llawr rhwng y rheiliau, a meddyliai Huw Llwyd mai sŵn annifyr oedd sŵn y defni.

Edrychodd o'i gwmpas. Methai weled unrhyw ffordd y gallasai'r heffer fod wedi troi o'r nant ond ar hyd y ffordd y daeth neu ar hyd yr hen inclên. Penderfynodd gael golwg ar honno a gwthiodd trwy'r rhedyn a'r danadl poethion nes cyrraedd brig yr inclên yng ngenau'r hafn. Yr oedd honno yn syth ac yn arw, ac er ei bod yn ffordd i gyrraedd y mynydd agored islaw yr oedd yn anodd credu y buasai'r un creadur wedi ei mentro.

"Fentrodd hi erioed mono fo," meddai Huw Llwyd, wrtho'i hun, "os nad oedd rhywbeth ar i hôl hi—ac o ran hynny, 'does yma ddim o'i hôl hi, chwaith. 'Does dim golwg fod dyn nac anifail wedi bod y ffordd yma ers talwm, os na bu ambell ddafad."

Trodd yn ei ôl yn siomedig a daeth drachefn at enau'r lefel. Ac yna, o'r tywyllwch o'i flaen yn y lefel dyna sŵn a wnaeth iddo sefyll yn sydyn, fel delw. Amheuai