Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn disgyn yn syth. Ac yno, gryn ddwylath i lawr, yr oedd llyn dulas, llonydd; pe buasai rhywun yn disgyn dros yr ymyl buasai'n disgyn yn syth i'r dyfroedd bygythiol hynny. Gwyddai Huw Llwyd rywbeth am dyllau chwarel; gwyddai ei bod yn debyg fod y twll hwnnw yn myned yn ddwfn iawn ac arswydai wrth feddwl am ddyfnder y llyn llonydd, annymunol. I hwnnw yr oedd y garreg a daflasai ar ochr y mynydd wedi disgyn.

Ond nid oedd y llyn yn llond yr ystafell yn y graig. O gwmpas y twll lle'r oedd y dwfr gadawyd astell o graig. Yr oedd tua llathen o led mewn rhai mannau, ond yn gulach o gryn lawer na hynny mewn lleoedd eraill. Yr oedd y graig fel pe wedi gwisgo a threulio yn ambell fan, a'r cerrig rhyddion ar y mannau hynny fel pe ar ddisgyn i'r llyn. Yr ochr arall i'r llyn yr oedd lefel ac olion hen reiliau. Yr oedd yn amlwg fod y chwarel yn myned ymlaen ymhellach i grombil y mynydd.

Methai Huw Llwyd â gwybod yn iawn pa beth i'w wneud. Nid oedd yn hoffi lle'r oedd, ac yr oedd yn hoffi llai arno ar ôl gweled y llyn. Yr oedd yn tynnu ymlaen ar y dydd hefyd ac ni fynnai gael ei ddal gan y nos mewn lle felly. Ac ni welsai olwg ar yr heffer nac ar yr un creadur arall. Bron na chredai erbyn hyn fod ei glust wedi ei dwyllo pan feddyliodd iddo glywed y brefu wrth geg yr ogof.

"Sut yn y byd," meddai, "y buaswn i yn clywed yr heffer yn brefu hyd yn oed o'r fan yma? Ac y mae'n amlwg ei bod hi wedi mynd ymhellach na hyn—os oedd hi yma o gwbwl. Y mae'n anodd iawn credu fod yr heffer las wedi mynd heibio'r hen lyn yma. Tybed ei bod