hi wedi llithro i'r dŵr wrth dreio myned ar hyd y silff yna?"
Aeth ymlaen at y fan lle'r oedd y silff letaf, a chraffodd. Tybiai ei fod yn gweled ôl rhywbeth ar y cerrig, ond yr oedd yn amhosibl bod yn sicr. Ac yna clywodd sŵn. Cyn hynny yr oedd y lle yn drymllyd o ddistaw ag eithrio sŵn annifyr dŵr yn disgyn o do'r lefel draw, ond y tro hwn yr oedd Huw Llwyd yn hollol sicr nad oedd ei glust yn ei dwyllo. Yr oedd y sŵn yn union o'i flaen, yn rhywle yn nhywyllwch y lefel yr ochr draw i'r llyn. A chredai mai ochenaid drom creadur mewn poen ydoedd.
Yr oedd hynny yn ddigon i Huw Llwyd. Er cased ganddo'r siwrnai, penderfynodd weled drosto'i hun beth oedd yn y lefel. Edrychodd tua'r agoriad uwch ei ben; yr oedd tipyn o oleuni o hyd, er bod yr haul wedi cilio oddi ar y rhedyn ar hyd ymyl y twll. Dewisodd y fan lle'r oedd y llwybr heibio i'r llyn letaf ac wedi treulio leiaf, a chychwynnodd. Ar un ochr iddo yr oedd y graig noeth. Ar yr ochr arall yr oedd disgyniad syth y twll chwarel i ddyfroedd dulas y llyn.