PENNOD III
YR oedd John Aubrey, yr Arolygydd Bifan a Huws y plisman wedi cerdded yn galed ar draws y mynydd-dir maith ac wedi cyrraedd Cefn y Graig, heb weled neb. Teimlai Huws oddi wrth y gwres; ni wnaed dillad plisman gyda golwg ar drampio ar draws y mynydd a dringo llechweddau ar ddiwrnod teg yn yr haf. Yr oedd yr Arolygydd yn dal ati yn well; gŵr tenau, main oedd ef ac yr oedd yn gwisgo "ei ddillad ei hun," a oedd gryn lawer ysgafnach na dillad swyddogol plisman. Ond John Aubrey, er ei fod yn ŵr corffol, oedd y mwyaf di-daro ohonynt. Cerddai fel y cerddai Huw Llwyd, gan gamu'n fras a gadael i'w holl gorff fyned ar osgo gyda'r cam yn lle cerdded yn syth fel y bydd pobl mewn trefi yn cerdded. Cenfigennai'r ddau blisman wrtho; ac ofnent braidd y buasai'n dal ati am filltiroedd ymhellach. Ar ben Cefn y Graig tynnodd Huws ei helmet a sychodd y chwys oddi ar ei dalcen. Nid oedd yn hoffi dweud dim yng ngwydd ei swyddogion, ond yr oedd yn demtasiwn iddo ddweud ei bod yn amser te ac yn bryd troi adref.
Edrychodd y tri ar yr olygfa o'u blaen. Yr oeddynt wedi croesi mawndir maith ar ôl gweled Huw Llwyd, ac wedi dringo'r gefnen olaf cyn dechrau dringo llethrau serth a digysgod Moel Llannerch. Trodd Aubrey ei wydrau ar y llethrau hynny. Nid oedd yno neb na dim i'w weled ond y defaid a borai ar ochr y Foel.
"Gwyddoch am y wlad yma yn llawer gwell na mi," meddai wrth yr Arolygydd, "ond y mae'n ymddangos i