mi na buasai'r dyn yna byth yn ceisio dianc y ffordd yma. Buasai'n rhaid iddo groesi ochr y Foel i fynd oddi yma o gwbl, a hyd y gwelaf, prin y gallai hyd yn oed lwynog wneud hynny heb i rywun ei weled."
"Y mae hynny'n ddigon gwir," meddai'r Arolygydd, ond meddwl yr oeddan' ni y gallasai o fod wedi mynd y ffordd yma gan feddwl cyrraedd Betws y Ddôl, lle y medrai gael bus."
Ysgydwodd Aubrey ei ben. "Ydach chi'n meddwl y buasai fo'n mentro i fus?" meddai. "Digon prin, fuaswn i'n meddwl. Buasai'n gwybod y byddai rhywun yn sicr o'i weled. Na, y mae arnaf ofn ein bod wedi pasio ei drywydd yn rhywle heb ei weled."
"Tybed?" meddai'r Arolygydd. "'Dwn i ddim ymh'le y gallasem ni fod wedi gwneud hynny. Wyddoch chi, Huws? "Rydach chi'n gwybod am y mynydd yma."
"Wel, yn o lew, syr," atebai Huws. "'Does yma fawr o le i guddio, fel y gwelwch chi, ac er nad oes yma fawr neb ond ambell fugail yn dwad y ffordd yma, y mae'r rheini yn o debyg o weled pawb arall a fydd yn digwydd bod ar y mynydd. Y mae unrhyw symudiad yn tynnu sylw dyn mewn lle fel hyn."
"Eithaf gwir," meddai Aubrey. "Tase rhywbeth nad ydych wedi arfer ag ef yn symud yn y lle yma neu yn dwad i'r golwg filltir i ffwrdd 'rydw i'n sicr y buasai dyn cynefin â'r mynydd yn sylwi arno."
"Ac mi ddwedodd Huw Llwyd nad oedd o wedi gweld dim na neb," meddai'r Arolygydd.
"Do siwr," meddai Aubrey, yn fyfyriol, "do, siwr- a dyna, i ddweud y gwir wrthoch chi, sydd yn pwyso tipyn ar fy meddwl i."