"Meddwl fod Huw Llwyd yn dweud celwydd?" gofynnai'r Arolygydd mewn syndod.
"Nage, nage," meddai Aubrey. "Ond cofio ei fod o wedi sôn am ryw chwarel."
"Do, mi soniodd am Chwarel Bwlch Glas," meddai'r Arolygydd, "ond mi ddwedodd hefyd nad oedd o am fynd yno. I ddweud y gwir, 'roeddwn i'n amau ei fod o wedi anesmwytho braidd ar ôl clywed fod Jac Puw yn rhydd."
"Efallai ei fod o," meddai Aubrey, "ac yr ydach chi yn i nabod o yn well na mi. Ond yr argraff a gefais i oedd fod colli'r heffer yn pwyso mwy ar feddwl Huw Llwyd na dim arall ac nad oedd o'n debyg o droi'n ôl nes cael hyd iddi."
Mentrodd Huws y plisman roddi ei big i mewn. "Y mae o'n reit arw amdani hi," meddai, ac mi glywais i fod o wedi rhoi pris mawr am yr heffer las yna sydd ar goll. Tybed y buasai o'n mynd at Chwarel Bwlch Glas?"
"Fuasai ei lwybr o adref yn mynd y ffordd honno?" meddai Aubrey.
Chi ŵyr orau am y mynydd yma, Huws," meddai'r Arolygydd. "A fuasai'r chwarel ar ei ffordd o?"
"Buasai," atebai Huws, os oedd o am fynd adref y ffordd gyntaf. Y mae yna lwybr o'r Bwlch Glas at yr Hendre, lle mae o'n byw, ond i fod o'n un garw ofnadwy. 'Does fawr neb yn i gerdded o ers tro."
"'Rydach chi'n anesmwyth ynghylch y chwarel yna, 'ddyliwn," meddai'r Arolygydd wrth Aubrey. "Fyddai'n well inni fynd heibio ar ein ffordd adref?"
Ochneidiodd Huws; gwyddai nad oedd y chwarel ar ei ffordd ef adref i Nant y Fron ac yr oedd wedi cael