a ddilynwyd gan Huw Llwyd. Yr oedd Crib y Rhiw ar eu llaw dde, llethrau gwyrddlas Moel y Banadl draw o'u blaen a rhes hir o fryniau isel Y Gweunydd Gleision yn cau'r olygfa ar y chwith. Rhyngddynt a'r bryniau hynny yr oedd mawndir maith, gydag ambell fryncyn a chlogwyn yma ac acw. Yr oedd y rhai hynny yn ei gwneud yn anodd gwybod a oedd rhywun neu rywbeth arall ar y mynydd heblaw hwy eu hunain. Unwaith gwelwyd gyr o wartheg a throdd yr Arolygydd ei wydrau arnynt, ond cerddodd y rhai hynny yn hamddenol ar draws yr anial nes myned o'r golwg y tu ôl i un o'r creigiau. Dro arall gwelodd Huws ryw symudiad ar un o'r ffriddoedd pell a galwodd sylw ato. Trowyd y gwydrau i'r cyfeiriad hwnnw a gwelwyd mai ceffyl unig oedd yno, un o'r ceffylau a drowyd i'r mynydd i bori. Nid oedd undyn byw yn y golwg.
Yr oedd yn ddistaw iawn, hefyd. Yr oedd ehedydd yn canu yn y glesni uwch ben ac unwaith neu ddwy daeth gylfinhir heibio, gan chwibanu yn lleddf ar ei haden. Unwaith, hefyd, safodd y tri yn sydyn, wedi clywed bref eidion fel pe buasai yn eu hymyl.
"Ymh'le yn y byd y mae hwnna?" meddai'r Arolygydd, nad oedd yn gynefin iawn â'r mynydd. Ond yr oedd Huws yn fwy cyfarwydd. Aeth i ben craig isel a oedd yn ymyl, ac yno yr oedd pedwar neu bump o wartheg yn pori yn y cysgod yr ochr arall. Nid oedd yno yr un heffer las.
"Pe buasai yna darw peryglus," meddai'r Arolygydd yn ddig, "mi fuasem wedi mynd i'w canol nhw cyn gwybod dim!"
"Does dim ffarmwr yn cadw tarw peryglus ar y ffriddoedd yma, syr," meddai Huws. "Y mae'r