Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwartheg welwch chi yma yn ddigon diberygl y rhan amlaf."

"Y dynion sydd beryclaf yma," meddai Aubrey yn gwta, ac yr oedd yn amlwg arno ei fod yn teimlo'n drwyadl bryderus. Cerddasant ymlaen, yn flinedig ac yn sychedig, ac yr oedd yn dda gan hyd yn oed Aubrey glywed Huws yn dweud eu bod wedi cyrraedd pen y disgyniad at y Bwlch Glas. Yr oedd yr haul wedi myned o'r golwg yr ochr draw i Foel y Banadl bellach, ond yr oedd yr awyr yn ddigwmwl a byddai'n ddigon golau am gryn amser eto.

Wedi cyrraedd at grib y disgyniad at y Cwm Glas gwelwyd nad oedd yn hawdd nac yn ddiberygl myned ar hyd y llethr yn y fan honno, ac aeth Huws, er mor flinedig oedd, i chwilio am lwybr. Bu'n rhaid iddo gerdded tipyn cyn gweled lle posibl, ac yna rhythodd ar yr hyn a welodd. Anghofiodd am drefn a disgyblaeth yn ei syndod, a gwaeddodd "Hei! " ar y ddau swyddog, gan amneidio arnynt i ddyfod ato.

Gwyddai Bifan ei bod yn rhaid ei fod wedi cael hyd i rywbeth cyn y buasai'n galw felly, a cherddodd ef ac Aubrey yn gyflym ar hyd min y disgyniad nes cyrraedd at y fan lle'r oedd y plisman yn sefyll.

"Be' sy'n bod, Huws?" meddai'r Arolygydd. "Ydach chi wedi gweld yr heffer las neu rywbeth?" "Y mae'n ddrwg geni alw arnoch chi fel yna, syr," meddai'r plisman, ond 'rydw i wedi gweled trywydd dyn ac anifail yn y fan yma," a dangosodd yr ôl traed lle'r oedd Huw Llwyd wedi cerdded i lawr, gan ddilyn ôl traed yr heffer las, fel y credai ef.

"Da iawn, Huws," meddai Aubrey, wedi edrych ar yr ôl ar y llechwedd. "Cawsoch afael ar rhywbeth