Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV

NID oedd Huw Llwyd yn hoffi'r daith uwch ben y llyn. Erbyn iddo ddechrau cerdded sylweddolodd fod yr astell yn gulach nag a feddyliodd; yr oedd y disgyniad i'r dwfr glasddu, llonydd, yn unionsyth ac yn ei ymyl. Mewn un lle yr oedd bwlch yn y llwybr, fel pe buasai darn o'r graig wedi treulio; yr oedd yno le i gerdded heibio iddo, ond dim ond prin ddigon. Teimlai Huw Llwyd ias o ddychryn wrth edrych ar y dŵr. Gwyddai y buasai ar ben arno pe llithrai ei droed a phe disgynnai i'r llyn.

O'r diwedd—ni bu fawr o amser ar y daith mewn gwirionedd, ond iddo ef ymddangosai yn hir—daeth yn ddiogel i'r ochr draw. Yr oedd yn dywyllach yno nag yr oedd wedi meddwl, ac yr oedd genau'r lefel yn edrych yn dywyll iawn. Am foment petrusodd. A oedd yn ddoeth myned i mewn? Cofiodd yn sydyn am y llofrudd. Tybed—ond yr oedd Huw Llwyd yn ŵr penderfynol a'i benderfyniad yn troi yn ystyfnigrwydd weithiau. Meddyliodd am yr heffer, ac aeth ymlaen i geg y lefel.

Bu'n rhaid iddo danio matsen yn y fan honno, ond er gwneud hynny baglodd ar draws rhywbeth a syrthiodd ar ei hyd, nid ar y graig ond ar draws rhywbeth blewog a meddalach o gryn lawer na'r graig. Gwyddai beth ydoedd heb ychwaneg o oleuni, ond er mwyn bod yn hollol sicr taniodd fatsen arall. Yr oedd wedi syrthio ar draws corff yr heffer las.

Prin yr oedd hynny yn syndod iddo. Yr oedd wedi