anobeithio amdani ers tro, ond cofiodd am y twrw a glywodd pan oedd wrth enau'r lefel y tu allan i'r chwarel, a dechreuodd ddyfalu sut yr oedd yr heffer wedi marw mor sydyn os oedd hi'n fyw'r pryd hynny.
"Y mae'n rhaid ei bod hi wedi torri ei choes neu rywbeth," meddai, "er na wn i ddim sut y buasai hynny yn ei lladd ar unwaith, 'chwaith."
Taniodd fatsen arall. "Lwc 'mod i'n smocio," meddai wrtho'i hun, "neu fuasai gen i ddim blwch matsus yn fy mhoced." Edrychodd, a theimlodd ei waed yn oeri wrth edrych. Yr oedd gwddf yr heffer wedi ei agor gan gyllell ac yr oedd ei gwaed wedi llifo ar draws y llawr. Yr oedd Huw Llwyd, yn ddiarwybod, wedi cerdded trwyddo.
Am foment teimlodd yn sâl. Yr oedd wedi hen arfer gweled anifeiliaid yn cael eu lladd ar y ffarm a chan gigyddion, ac nid oedd yr olwg ar waed yn debyg o effeithio arno. Ond yr oedd rhywbeth yn y peth a ddigwyddodd i'r heffer las yn wahanol i hynny; yr oedd yma ladd diamcan, rhywbeth na ddylai fod, rhywbeth creulon. Ac ar hynny trodd teimlad Huw Llwyd yn ddicter ffyrnig. Yr oedd yn rhaid i bwy bynnag a wnaeth hyn dalu am ei waith.
Pa beth oedd orau i'w wneud? Ciliodd yn ôl oddi wrth gorff yr heffer at ymyl y llyn, lle'r oedd ychydig oleuni o hyd o'r twll uwch ben. Nid oedd yn amau nad Jac Puw a laddodd yr heffer, ac, os felly, yr oedd y llofrudd—canys fel llofrudd y meddyliai Huw Llwyd amdano, prawf neu beidio—yn rhywle yn y chwarel o hyd. Efallai ei fod yn ei wylio o dywyllwch y lefel; yr oedd yn amhosibl ei fod wedi cael amser i fyned yn bell canys nid oedd fawr er pan glywsai Huw Llwyd