Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

riddfaniad olaf yr heffer. Teimlai awydd myned ymlaen i edrych, ond drachefn meddyliai mai'r peth gorau iddo fyddai myned allan o'r hen chwarel a myned i chwilio am y plismyn a welsai ar y mynydd gynnau.

Bu'n ceisio penderfynu am ychydig, ac yn methu torri'r ddadl. Yr oedd ei synnwyr cyffredin yn dywedyd wrtho mai'r peth callaf i'w wneud fyddai myned yn ôl. Wedi'r cwbl, gwaith y plismyn oedd dal y llofrudd, ac nid oedd ganddo yntau ddim i'w ennill bellach trwy geisio dial cam yr heffer las. A gallai beryglu ei fywyd trwy geisio gwneud hynny. Wrth feddwl am dduwch yr hen lefel o'i flaen a'r posibilrwydd fod Jac Puw yn llechu yn rhywle yn y duwch hwnnw, yn ŵr wedi dyfod i ben ei dennyn erbyn hyn ac yn barod i wneud unrhyw beth i'w amddiffyn ei hun, penderfynodd Huw Llwyd ar y ffordd gallaf. Y peth gorau iddo ef oedd mynd allan a chwilio am Huws a Bifan a'r dyn dieithr hwnnw. Trodd â'i wyneb tuag at lwybr y llyn.

Ac yna daeth dychryn gwirioneddol drosto. Rhyngddo a llwybr dihangfa heibio i'r llyn yr oedd dyn yn ei grwcwd, yn symud yn araf ac yn llechwraidd—mor llechwraidd a distaw fel na chlywsai Huw Llwyd ddim o'i sŵn—tuag ato. Yr oedd ganddo gyllell hir, twca gloyw, yn ei law; yr oedd ei wallt a'i farf wedi tyfu yn afler ac yr oedd ei ddillad yn garpiau. Yr oedd un olwg yn ddigon i Huw Llwyd; adnabu Jac Puw. Ac yr oedd yn amlwg nad oedd Jac Puw yn bwriadu iddo gael myned o'r chwarel yn fyw.

O ba le yr oedd wedi dyfod? Nid oedd Huw Llwyd wedi sylwi ar guddfan yn unman pan aeth heibio i'r llyn; yr oedd ei holl feddwl ar gael hyd i'r heffer ac ar gadw ei draed yn ddiogel ar y llwybr cul y pryd hynny.