Ond yn awr, wrth syllu i gyfeiriad y dyn a oedd yn agosáu gwelodd fod lefel arall, is o gryn lawer, yn agor yn ymyl llwybr y llyn. Yr oedd yn rhaid bod y llofrudd wedi ymguddio yn honno pan oedd Huw Llwyd yn myned heibio. Ond y cwestiwn yn awr oedd pa fodd i ddelio â'r perygl newydd.
"Cadw draw!" meddai Huw Llwyd wrth y dyn a oedd bellach o fewn ychydig lathenni iddo. Dyma'r tro cyntaf iddo siarad yn uchel yn y chwarel; yr oedd ei lais fel pe'n ymgolli yn uchder y graig. Ond yr oedd Jac Puw wedi ei glywed. Cododd ei ben ac edrychodd arno. Yr oedd penderfyniad creulon yn ei lygaid.
"Pa fusnes oedd gen ti i ddwad yma arf'ôl i?" meddai. "Dwad yma i chwilio am fy heffer wnes i," meddai Huw Llwyd. ""Doeddwn i'n meddwl dim amdanat ti, nac yn malio dim."
"Mi fyddi'n malio bellach," meddai'r dyn, "a'r peth cynta' wnaethet ti ar ôl mynd allan fuasai deud wrth y plismyn yna. 'Dydy nhw ddim wedi meddwl am y fan hyn, a 'tydw innau ddim yn bwriadu gadael iddyn' nhw wneud. 'Dei di ddim allan eto, 'ngwas i!" Neidiodd ymlaen yn sydyn â'r gyllell hir yn ei law. Gallasai fod wedi cyrraedd Huw Llwyd cyn i hwnnw fod yn barod amdano, ond yr oedd gwaed yr heffer wedi llifo ar wyneb y graig at ymyl y llyn erbyn hyn, rhoddodd Jac Puw ei draed ynddo, llithrodd, collodd ei afael a disgynnodd ar ben ei lin. Ond daliodd ei afael yn y gyllell, a chododd cyn y medrai Huw Llwyd wneud dim iddo ar lawr. Er hynny cafodd y ffarmwr ddigon o amser i gefnu tua'r lefel. Gwyddai bellach am gorff yr heffer a llwyddodd i'w osgoi er ei bod yn hollol dywyll. Teimlai fod ganddo graig dan draed