a chan ei fod heb arfau o fath yn y byd ni allai wneud dim ond ffoi a gobeithio dyfod o hyd i le diogel yn rhywle yng nghrombil y mynydd. A gobaith gwan oedd hwnnw.
Yr oedd yn wannach am fod Huw Llwyd, fel y rhan fwyaf o ffermwyr yr ardal, yn gwisgo esgidiau hoelion a Jac Puw, fel y gwyddai'r plismyn, yn gwisgo gwadnau rhwber. Yr oedd pob cam a gymerai Huw Llwyd yn gwneud sŵn, ond yr oedd y llofrudd yn medru symud yn ddistaw, ac yr oedd yn amhosibl dywedyd pa le yr oedd. Ond daliodd Huw Llwyd i redeg ar hyd y lefel nes i'w droed daro wrth rywbeth ar lawr. Gwyrodd a chododd y peth; yr oedd yn ddarn o bren a ddefnyddiwyd yn y chwarel ar un adeg, ac er nad oedd fawr o beth o'i gymharu â chyllell, yr oedd yn dda ganddo gael erfyn o fath yn y byd yn ei law. Manteisiodd ar y sefyll hwnnw am eiliad i wrando. Yr oedd distawrwydd a thywyllwch trwm yn y lefel, ac yr oedd yr awyr erbyn hyn yn fwll iawn. Casglodd Huw Llwyd ei fod yn bur isel dan y ddaear a chofiodd iddo glywed bod chwarel Bwlch Glas yn un o'r rhai dyfnaf yng Nghymru. Yr oedd hynny yn un rheswm paham y bu'n rhaid rhoddi'r gorau i'w gweithio.
Yn y distawrwydd trwm gwrandawodd Huw Llwyd am ei fywyd. Am eiliad meddyliodd nad oedd Jac Puw yn ei ddilyn; yr oedd popeth mor ddistaw. Ac yna clywodd sŵn bychan, sŵn carreg ar garreg, fel pe buasai'r llofrudd wedi taro ei droed wrth garreg rydd. Ac yna distawrwydd drachefn.
Gwrandawodd drachefn, gan glustfeinio am y sŵn lleiaf; gallasai glywed y smic gwannaf yn y lle hwnnw. Ond nid oedd dim sŵn o gwbl. "Tybed," meddai wrtho'i