hun, "ei fod o wedi sefyll, yn disgwyl clywed sŵn fy nhroed i yn ail-gychwyn?" Ac ar hynny daeth syniad arall i'w feddwl. Tra fyddai ef yn gwisgo'r esgidiau hoelion gallai'r llofrudd ei glywed a gwybod i'r dim pa le yr oedd. Yn araf, araf, ac yn ddistaw iawn, tynnodd Huw Llwyd ei esgidiau a cherddodd ymlaen yn nhraed ei hosanau. Yr oedd y distawrwydd erbyn hyn yn ddyfnach ac yn drymach nag erioed.
Wedi mynd ychydig lathenni gwrandawodd drachefn. Nid oedd yn hollol sicr a allai glywed rhyw sŵn ai peidio. Aeth ymlaen; heb yn wybod, yr oedd yn rhaid ei fod wedi myned heibio i dro yn y llwybr creigiog, ac yn awr, er ei syndod a'i lawenydd, gwelai olau gwan yn y pellter o'i flaen. Prin, hwyrach y gellid ei alw yn olau eto, ond yr oedd rhyw lwydni yn y tywyllwch nad oedd yno cynt. Aeth ymlaen yn araf ac yn wyliadwrus iawn, gan gofio nid yn unig am y dyn a oedd y tu ôl iddo ond hefyd am y pwll a'r merddwr du a welodd yn yr agoriad arall. Beth os oedd rhywbeth tebyg ymlaen?
Yr oedd. Gyda hynny daeth Huw Llwyd i geg y lefel. Yr oedd honno yn agor ar dwll mwy ac uwch o lawer na'r un cyntaf a welodd. Yr oedd agoriad ar ochr y mynydd ym mhen uchaf y twll hwn, hefyd, ond yr oedd mor uchel a hithau yn hwyrhau fel nad oedd ond ychydig iawn o olau yn cyrraedd y gwaelod. Ond yn y gwyll hwnnw gwelai Huw Llwyd fod twll dyfnach ynghanol y llawr craig a bod dŵr yn hwnnw hefyd. Ni feiddiai olau matsen eto; aeth ymlaen i ymyl y twll a gwelodd fod astell o graig ar un ochr i hwn hefyd. Ond cul iawn oedd yr astell honno, yn enwedig mewn un lle, ac ar un ochr yn unig yr oedd. Dyna'r unig