ffordd i gyrraedd yr ochr draw. Sylweddolodd Huw Llwyd hynny a suddodd ei galon. Yr oedd y llofrudd o'i ôl. A'r unig ffordd i ddianc rhagddo, os dianc hefyd, oedd ar hyd yr astell gandryll a pheryglus honno, a hynny yn y gwyll.
Ac yna daeth sŵn o dywyllwch y lefel wrth ei gefn, sŵn sydyn a sŵn yn ymyl. Trodd Huw Llwyd rhag ofn fod Jac Puw ar ei warthaf. Ac yr oedd yn dda iddo wneud hynny. Daeth darn mawr o lechfaen heibio'r lle yr oedd yn sefyll arno eiliad ynghynt. Pe buasai wedi ei daro, fel y bwriadwyd iddo wneud, buasai yn sicr wedi disgyn ar ei wyneb i'r dyfroedd tywyll o'i flaen. Nid oedd amheuaeth pwy a daflodd y garreg na pha beth oedd ei amcan. A chofiodd Huw Llwyd am y garreg arall a daflwyd pan oedd yn cychwyn ar hyd y lefel.
Sylweddolodd beth arall, hefyd. Wrth sefyll yn y fan honno yr oedd hynny o oleuni a oedd yno yn taro arno a medrai'r llofrudd ei weled. Gallai'r garreg nesaf fod yn angeuol. Symudodd ar unwaith, ac yr oedd yn dda iddo ei fod wedi gwneud hynny hefyd, canys prin yr oedd wedi cilio i'r ochr dywyll pan ddaeth carreg fawr arall, darn o lechfaen hir a miniog, o dduwch y lefel y tu cefn iddo a disgyn i dduwch gwaeth y dwfr dwfn, llonydd.
"Pe buaswn yn sefyll yn y fan yna," meddai Huw Llwyd wrtho'i hun, ar fy mhen yn y llyn y buaswn i." Ac arswydodd wrth feddwl am y peth. Gwyddai fod angau yn agos iawn ato erbyn hyn.
Am eiliad bu'n petruso beth i'w wneud. A fyddai'n well iddo droi'n ôl a rhuthro ar Jac Puw, gan obeithio gallu ei drechu, a dianc? Ond yr oedd y llofrudd yn