Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei safle yn iawn. I bob golwg yr oedd y safle hwnnw yn anobeithiol.

Gwrandawodd. Yr oedd yn dywyll iawn erbyn hyn, ac ar y dechrau tybiodd ei bod yn ddistaw iawn hefyd. Yn sicr nid oedd sŵn y gelyn i'w glywed yn unman. Ond yr oedd yno sŵn arall yn dyfod o'r duwch—sŵn dŵr yn diferu yn y pellter, sŵn fel pe buasai cerrig mân yn llithro yn rhywle yn y tywyllwch y tucefn iddo, ac yna sŵn arall yr oedd yn gas gan Huw Llwyd ei glywed. Fel y rhan fwyaf o ffermwyr, yr oedd yn casâu llygod mawr er nad oedd, fel rheol, yn eu hofni, ac yn awr adnabu eu gwich fileinig yn ymyl. Rhedodd dwy neu dair ohonynt ar draws ei draed; ceisiodd eu taro â'i ffon, a chredai iddo daflu un, beth bynnag, i'r llyn. Ond gwyddai y gallai llygod mawr yn heidiau gyda'i gilydd fod yn bethau peryglus iawn. Clywsai am rai felly yn ymosod ar ddynion ac yn eu lladd, a fferrodd ei waed wrth feddwl am dreulio'r nos yn y tywyllwch hwnnw gyda'r llygod.

Yr oedd yn rhaid gwneud rhywbeth. Cofiodd am y blwch matsus yn ei boced a phenderfynodd danio un. Ond, i ddechrau, teimlodd ei ffordd yn ofalus gyda'i ffon ar draws y graig lle safai, a chafodd hyd i geg y lefel a welsai o'r ochr arall. Yr oedd honno yn isel, ond medrodd fyned iddi yn ei grwcwd, ac yna, yn ofalus, gan gofio gallai Jac Puw fod yn gwylio yr ochr draw, taniodd un o'r matsus. Gwelodd y tân yn cael ei adlewyrchu yn llygaid cochion dwsin neu ragor o lygod mawr gwichlyd, a thrawodd un ohonynt â'i ffon a'i lladd. Ffodd y lleill gan wichian yn filain, ond sylwodd Huw Llwyd, yn bur anesmwyth, nad oeddynt yn myned ymhell.