na thebyg y bydd yn dda inni wrth rywbeth felly. Ac yn awr, Huws, gwnewch eich gorau, a phob lwc i chi."
Trodd y plisman i'w siwrnai hir ar hyd y llwybr yr oedd Huw Llwyd wedi meddwl myned ar hyd-ddo pan welodd drywydd ei heffer, ac yn y man diflannodd heibio i ysgwydd y bryn. Edrychodd yr Arolygydd ar Aubrey.
"Ar ei orau," meddai, "ni fedr ddyfod yn ei ôl cyn hanner nos, ac mi fyddwn yn lwcus os daw o cyn gynted. Ond 'dwn i ddim beth arall sydd i'w wneud."
"Dim ar hyn o bryd, beth bynnag," oedd ateb Aubrey. "Bydd yn rhaid i chi a minnau wylio yn y fan yma, na ddaw neb allan o'r lle yma heb i ni ei weled. Y mae'n dda ein bod ni wedi dyfod â thamaid o fwyd efo ni."
Cafodd y ddau le gweddol sych a chysgodol ar ochr y bryn ac yn ymyl genau'r lefel i eistedd arno, a thaniodd pob un ei getyn a smocio am ysbaid yn dawel, heb ddywedyd fawr. Ond cyn hir sylwodd yr Arolygydd fod Aubrey yn dal automatic yn ei law a'i fod yn cadw ei lygaid yn barhaus ar enau'r ogof.
"Yr ydych yn barod, mi welaf," meddai mewn llais isel.
Nodiodd Aubrey yn ddifrifol. "Os nad wyf yn camgymryd," meddai, " y mae'r dyn yma yn beryglus. Gwyddom ei fod wedi lladd un dyn. Bu agos iddo ladd plisman wrth ddianc, ac y mae'n fwy na thebyg ei fod wedi lladd Huw Llwyd. 'Fyddai llofruddiaeth arall, neu ddwy neu dair o ran hynny, nac yma nac acw iddo bellach. 'Fedrwch chi mo'i grogi o fwy nag unwaith, ac y mae'n sicr o ymladd am ei fywyd."