Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddai Aubrey. "Yr oeddwn yn amau ers munud neu ddau bellach."

"Oglau mwg," meddai Bifan.

"Dyna oeddwn innau yn ei feddwl," meddai Aubrey ac yn dwad o'r lefel, os nad wyf yn camgymryd." "'Oglau tân coed a buswail," meddai'r Arolygydd. "Ond beth yn y byd a all hynny fod?"

"Jac Puw yn gwneud ei ginio, y mae'n debyg," oedd ateb Aubrey. " Cofiwch am yr heffer a'r ddafad."

"Fuasai fo byth yn mentro," meddai'r Arolygydd.

Nid wyf mor sicr," meddai Aubrey.

Cofiwch nad oes ganddo unrhyw le i feddwl fod neb wedi amau ynghylch ei loches, a hwyrach na feddyliodd y buasai mwg yn dyfod allan y ffordd yma. A oes agoriadau i'r chwarel ar ochr y mynydd?"

"Dwn i ddim beth am hynny," meddai Bifan, "ond creadur dwl ydi Jac Puw ryw ffordd, ac y mae'n ddigon tebyg na feddyliodd o ddim am y mwg—os y fo sydd yna."

"Yr wyf am fynd i edrych," meddai Aubrey.

"A mentro'ch bywyd, ddyn glân!" meddai'r Arolygydd. "Byddai'n well i chi aros nes i Huws ddyfod yn ôl."

"Na," meddai Aubrey, "y mae yna gyfle yn awr, efo'r mwg yma. Lle mae mwg y mae tân, ac mi fedraf weled rhywbeth wrth olau hwnnw. Ni byddaf fawr o dro."

"Os ydach chi'n mynd, 'rydw innau'n dwad efo chi," meddai Bifan yn bendant. "Does dim perygl iddo fo ddianc allan a ni ein dau yn y lefel rhyngddo a'r awyr agored, ac ni ddaw Huws a'r lleill yma am spel eto. Mi fuasai yn dda gen i pe buaswn wedi dwad â gwn efo mi."