Petrusodd Aubrey, ond o'r diwedd dywedodd, "Wel, fel fynnoch chi. 'Dawn i ddim ymhell i mewn, a fydd arnoch chi ddim eisiau gwn. Y mae hwn sydd gen i yn ddigon at un dyn-os bydd raid. Yn awr, cyn ddistawed ag y medrwch chi."
Ymgripiodd y ddau i mewn i'r lefel yn araf ac yn ddistaw. Yr oedd y llygod a'r ystlumod yno o hyd, ond yr oedd Aubrey a Bifan yn disgwyl pethau felly mewn lle o'r fath ac ni chymerasant fawr sylw ohonynt. Fel yr oeddynt yn myned ymhellach ar hyd y lefel yr oedd aroglau'r mwg yn amlycach ac yr oedd yn anodd peidio â phesychu. Yr oedd yn amlwg fod rhyw awel yn y mwrllwch trwy'r cwbl a bod honno yn cludo'r mwg at enau'r lefel. Yr oedd yn debyg, meddai Aubrey wrtho ef ei hun, na feddyliodd Jac Puw am beth felly.
O'r diwedd, wedi myned heibio i'r tro yn y lefel, gwelsant olau coch o'u blaen. Rhoddodd Aubrey ei law ar lawes yr Arolygydd, ond yr oedd hwnnw wedi gweled y golau cyn gynted ag yntau ac wedi sefyll. "Y mae rhywun yn y fan yna, yn union o'n blaen," sibrydai Bifan yng nghlust Aubrey.
Nodiodd Aubrey, ac amneidiodd am iddynt fyned ymlaen. Yr oedd y mwg yn dyfod i'w cyfarfod yn lled drwchus erbyn hyn ac yn pylu golau'r tân.
Symudasant ymlaen yn araf, araf. Yna daethant at yr agoriad cyntaf a welsai Huw Llwyd, gyda'r twll a'r llyn yn ei ganol. Buasai yn hollol dywyll yno erbyn hyn oni buasai am olau'r fflam. Yr oedd hwnnw yn ddigon i ddangos y lle ac yr oedd y fflam weithiau, pan losgai yn uchel, yn bwrw lliw coch ar ddyfroedd duon y llyn. Yr ochr draw i'r llyn, yng ngenau'r lefel bellaf, yr oedd y tân. Yr oedd rhywun ar ei grwcwd yn ei ymyl, a phan