loywodd y tân am eiliad, gwelodd y ddau wyliwr y golau yn disgyn ar wyneb Jac Puw. Yr oedd yn troi darn o gig ar y tân. Yr oedd eu dyfalu yn gywir; paratoi ei swper yr oedd.
"Fedrwn ni wneud dim yn y fan yma," sibrydai Aubrey wrth yr Arolygydd. "Pe buasem yn galw arno i sefyll buasai'n cilio yn ôl i berfedd y chwarel i rywle, a 'fedrem ninnau ddim mynd ar ei ôl heb oleuni. Gwyddom pa le y mae ; y mae hynny yn rhywbeth." Cytunodd yr Arolygydd ac ymgripiodd y ddau yn ôl at enau'r lefel.
"'Does dim i'w wneud," meddai Bifan, "ond aros nes daw Huws a'r lleill yma. Y mae Puw yn adyn digywilydd, hefyd!"
Ac yn un dwl," ychwanegai Aubrey. "Buasai'n ddiogelach ar y mynydd agored nag yn y lle yma. Y mae mewn trap. Ond yr hyn sydd yn fy mhoeni i ydyw beth a ddigwyddodd i Huw Llwyd? 'Doedd dim golwg amdano, ond os aeth o i mewn i'r chwarel o gwbl—ac y mae pob lle i feddwl mai dyna a wnaeth o—y mae'n rhaid ei fod wedi pasio Jac Puw yn rhywle. Ac y mae'n sicr, os gwelodd o Jac, fod hwnnw wedi gwneud ei orau i'w rwystro rhag medru dweud."
"Yr ydych yn credu ei fod wedi lladd Huw Llwyd ?" meddai Bifan.
"Dyna'r peth tebycaf, yntê ?" atebai Aubrey. Gresyn na buasem wedi troi yn ôl efo Huw Llwyd pan welsom ef."
"Ond yr oedd yn dweud ei fod o am fynd adref yn syth," meddai'r Arolygydd, yn anesmwyth braidd.
"Oedd," meddai Aubrey, "ond cyn gynted ag y clywais sôn am y chwarel yma yr oeddwn yn teimlo y