Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna oeddwn innau yn ei feddwl," meddai Aubrey. "Y cof sydd gen i am chwareli fel hyn, y mae rhai ohonyn' nhw fel Chinese puzzle. Bydd yn dda cael un dyn, beth bynnag, wrth geg y lefel."

"Wel, gan eich bod yn meddwl y gall Jac Puw fynd yn ein gwrthgefn," meddai'r Arolygydd," hwyrach y byddai'n well i Huws aros yma efo Thomas.

"O ran hynny, y mae Huws wedi cael digon o gerdded eisoes." Dyna a drefnwyd, ac er y buasai Huws yn hoffi gweled beth oedd yn y chwarel, yr oedd ei draed a'i goesau blinedig yn tystio wrtho na byddai yn fawr o werth yn yr ymchwil. Bodlonodd i'r drefn, a pharatodd ef a Thomas i ofalu na ddeuai neb o'r chwarel heb iddynt hwy gael gafael ynddo.

Aeth y lleill i mewn i'r lefel, gyda'r lampau trydan yn goleuo'r lle i gyd ac yn dangos pob hollt a chraith ar y graig a phob twll a thro yn eu llwybr. Wedi dyfod at y lle'r oedd y llwybr yn gwyro cyn dyfod at y siambr, dywedodd Aubrey wrthynt am roddi'r golau allan rhag rhoddi mantais i Jac Puw arnynt os oedd yn yr un fan o hyd. Ufuddhawyd, a chafodd y fintai ei hunain mewn tywyllwch hollol.

"Hylo!" meddai Bifan yn isel," beth a ddigwyddodd i olau'r tân ? Dylem weled hwnnw o'r fan yma."

"Buasem yn ei weled yn sicr," meddai Aubrey, "pe buasai i'w weled. Y mae Jac Puw wedi ein clywed, ac wedi diffodd y tân. 'Does dim esboniad arall yn bosibl. Yn ara' deg, yn awr. Mi af ymlaen i weled beth a ddigwyddodd."

A chyn i Bifan allu cynnig myned yn ei le yr oedd Aubrey wedi disgyn ar ei hyd ar y llawr carreg oer ac yn ymgripio ymlaen yn araf ac yn wyliadwrus iawn