Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes dyfod i olwg y lle agored. Yna, heb godi oddi ar y llawr, goleuodd ei lusern, un eithriadol o gref. Gwanodd; y goleuni llachar trwy'r tywyllwch, gan ddangos rhan o'r gwagle trwm a gwneud llwybr ar draws y llyn i'r ochr draw. Trodd Aubrey y goleuni yma a thraw, i'r dde ac i'r aswy, i lawr at ddŵr y llyn, a hyd yn oed i fyny at yr agoriad a oedd ymhell uwchben—y tro cyntaf, wrth gwrs, i Aubrey weled hwnnw.

Yr oedd y lle yn hollol wag. Ac yn hollol ddistaw. Cododd ar ei draed, a galwodd ar y lleill.