Aubrey. Yr oedd sgriffiadau ysgeifn ar y llawr yn y fan honno. Gallai llusgo corff dyn ar hyd y graig fod wedi gwneud marciau fel yna."
"Y mae yna geg lefel yn y fan yma, syr," meddai Sarjant Roberts. "A fyddai'n well imi ei hedrych?"
Yr oedd y lefel isel y llusgwyd Huw Llwyd iddi yn ymyl. Trodd Aubrey a'r Arolygydd eu lampau arni; yr oedd yn eglur mai lle cyfyng oedd yno, lefel, fel y dywedodd Sarjant Roberts, wedi hanner ei hagor ac wedi ei gadael heb ei chario ymhell. Ond yr oedd y sgriffiadau yn amlwg wrth yr agoriad; yr oedd yn rhaid ei chwilio.
"Cymerwch ofal," meddai Aubrey yn isel wrth y Sarjant. "Wyddom ni ddim pwy sydd yna." Yr oedd pob un ohonynt yn meddwl y gallai'r llofrudd fod yn llechu yno.
Trowyd y golau i mewn, ond nid oedd yno ddim i'w weled ond y graig noeth.
"Tydi hi ddim yn mynd ymhell, syr," meddai'r Sarjant. "'Rwy'n meddwl fy mod i'n cofio agor hon. Mae yna bant yn y gwaelod, os ydw i'n cofio'n iawn."
"I mewn â chi, ynteu, Roberts," meddai Bifan, gan ddal ei lamp fel ag i oleuo'r lefel i gyd, ac aeth y Sarjant i mewn ar ei grwcwd.
Ymhen ychydig eiliadau daeth ei lais yn ôl at y ddau swyddog.
"Y mae'r twll yma yn ddyfnach nag yr oeddwn i wedi meddwl," meddai. "Hylo, y mae yma rywbeth yma." Ac yna siaradodd yn gynhyrfus. "Inspector, fedrwch chi ddwad yma. Y mae Huw Llwyd yn y fan hyn!"
Aeth Bifan i mewn ar unwaith, ac wedi bwrw un olwg