Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i gwmpas, gwyrodd Aubrey hefyd i ymgripio ar eu hôl orau y gallai. Yr oedd y lefel yn rhy gul iddynt sefyll ynddi ochr yn ochr, ond llwyddodd yr Arolygydd i gael lle wrth ochr y Sarjant ac edrych i lawr i'r twll. Nid oedd hwnnw ond tua llathen o ddyfnder, wedi ei dorri yn y graig fyw. Yno, yn llonydd, yr oedd Huw Llwyd. Trodd Bifan y lamp arno, ond er bod y golau yn gryf ni ddangosodd Huw Llwyd arwydd ei fod yn gwybod dim amdano.

"Ydi o wedi ei ladd?" meddai Bifan, yn bryderus. "Y mae ei galon yn dal i guro," meddai Aubrey, ond cafodd gnoc enbyd ar ei ben. Y mae'n syn ei fod yn fyw. Yn ara' deg, Sarjant; y mae'n rhaid bod yn ofalus iawn efo dyn wedi brifo ei ben fel yna."

Rhyngddynt llwyddasant i godi Huw Llwyd a'i osod yn dyner ar y llawr oer. Tynnodd yr Arolygydd ei gôt a gosododd hi dan ben y dyn diymadferth. Gwnaeth y Sarjant yr un peth â'i got yntau a thaenodd hi dros gorff Huw Llwyd.

'Y mae'n rhaid inni gael rhyw fath o glwyd i'w gario oddiyma," meddai Aubrey, "Ond fedrwn ni wneud dim nes cael y lleill i helpu—ac y mae'n rhaid inni orffen chwilio'r hen chwarel yma. Oes yma lawer ohoni hi eto, Sarjant Roberts?"

"Os ydw i'n cofio'n iawn," meddai'r Sarjant, "'rydan ni wedi mynd i'r pen draw bron. 'Does yna ddim ond rhyw ychydig lathenni eto."

"Wel, rhaid cerdded yn ofalus," meddai Aubrey yn isel. "Y mae pob llygoden yn beryglus pan fydd wedi mynd i'r pen arni. Yn araf yn awr, ac yn ddistaw.

Gadawyd Huw Llwyd yn gorwedd yn llonydd ar lawr y lefel fach ac aeth y tri allan i'r lefel fwy. Cerddasant