PENNOD VII
BU eiliad o ymgynghori ac o edrych ar Huw Llwyd. "Gadewch iddo," meddai Aubrey. "Fedrwn ni wneud dim iddo fo yn awr, ac y mae'n rhaid i ni weled beth a ddigwyddodd i Parry. Y mae o wedi gweled rhywbeth."
Ar hynny dyna ergyd arall a sŵn llais. Yr oedd hynny yn ddigon; rhedodd y tri, gyda'r Arolygydd ar y blaen, at y lle y gadawyd Parry yn gwylio ochr y llyn a'r bont fregus a wnaethpwyd gyda'r llafn o lechfaen. Daethant allan o'r lefel ar wib, ac i ymyl y llyn. Yr oedd yn dda gan yr Arolygydd weled Parry yn fyw, ac i bob golwg yn ddianaf, yn sefyll lle gadawyd ef, ond yr oedd yr automatic yn ei law ac yn pwyntio at le uwch pennau Aubrey a'i gymdeithion. Ac fel yr oeddynt hwy yn dyfod i'r amlwg saethodd Parry drachefn.
Dilynwyd yr ergyd gan ffrwd o regfeydd o rywle uwch ben, a sŵn fel pe buasai rhywun yn crafangu ar hyd y graig.
"Be' sy'n bod, Parry?" meddai'r Arolygydd yn awdurdodol, a dyna'r tro cyntaf i'r plisman sylwi eu bod wedi dychwelyd.
Pwyntiodd at y graig uwch eu pennau. "Y mae Jac Puw yn dringo at yr agoriad uwchben, syr," meddai Parry, "ac yn gwrthod dwad yn ôl."
"Y nefoedd fawr!" meddai Bifan. "Sut y medrodd neb ddringo yn y fath le?"
"Fel hyn, syr," meddai'r Sarjant, yn annisgwyliadwy, gan bwyntio at y darn o hen gadwyn rydlyd a welsai'r