Arolygydd ac Aubrey o'r blaen. "Yr oedd y chwarelwyr yn gweithio ar wyneb y graig pan oedd y chwarel yn mynd, ac y mae'n debyg iawn fod rhai o'r styfflau yn y graig o hyd a bod Jac Puw wedi cael hyd iddyn' nhw." "Fedrwn ni ddim gweled o'r fan hyn, beth bynnag," meddai Aubrey, canys yr oedd y graig yn syth uwch eu pennau. "Y mae'n rhaid inni fynd i'r ochr draw ar unwaith."
Croesodd y tri ar hyd y bont sigledig yr oedd Parry yn sefyll wrthi, ac o'r fan honno, yn y gwyll tanddaearol, gwelsant fod y llofrudd yn gwneud yn union fel y dywedodd y Sarjant—a'i fod yn ymyl yr agoriad ar ochry mynydd. Pe llwyddai i gyrraedd hwnnw byddai'n rhydd—am ryw hyd. Os cyrhaeddai. Os—
Nid oedd yr un o'r plismyn nac Aubrey yn rhai hawdd eu dychrynu, ond teimlai pob un ohonynt iasau o arswyd wrth weled y dyn yn crafangu fel gwybedyn ar wyneb y graig. I bob golwg, nid oedd ganddo afael o gwbl, ond symudai ei ddwylo a'i draed yn araf ac yn ofalus. Yr oedd yn amlwg fod ganddo afaelion yn rhywle. Ac, fel yr edrychent, gwelent ei fod yn agosáu at yr agoriad. Tyfai rhedyn a gwellt ar ymyl hwnnw, a'r cwestiwn a oedd ym meddwl pob un o'r edrychwyr oedd a allai ymgripio oddi ar wyneb y graig i ochr y mynydd. Gallai hynny fod y rhan beryclaf o'r daith enbyd.
Torrodd llais yr Arolygydd ar y distawrwydd.
Jac Puw," meddai, "rhowch eich hun i fyny. Ni waeth i chi heb geisio dianc. 'Rydan ni'n siwr ohonoch chi. Dowch i lawr am eich bywyd."
Ni ddaeth ateb y tro hwn. Yr oedd yr ymdrech yn rhy galed a'r perygl yn rhy fawr i'r adyn allu dywedyd