Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dim. Gwyddai, pe collai ei afael, y disgynnai yn swp i'r llyn neu, efallai, ar y llawr craig. Ar y llaw arall, pe llwyddai i gyrraedd y grib yn ddiogel byddai ganddo siawns am ei ryddid am ysbaid. Y mae'n debyg na allai amgyffred fod y gyfraith yn sicr ohono yn hwyr neu hwyrach. Yn araf, araf, symudodd ei law o un afael i'r llall. Yn araf, araf, teimlodd â'i droed am le ar wyneb y graig y gallai roddi ei bwysau arno. Yr oedd hen styfflau'r chwarelwyr wedi eu gadael yma ac acw, ond i'r dynion a wyliai o'r gwaelod, gan ddal eu hanadl, yr oedd fel pe buasai'r dyn yn crogi wrth ddim uwchben gwagle. Symudodd drachefn, ac yn awr yr oedd yng nghysgod y twf ar fin y twll.

Yn sydyn trodd yr Arolygydd at y plisman Parry, y dyn ieuanc a adawyd i wylio'r llwybr heibio i'r llyn. "Ewch at Hughes a Thomas ar unwaith," meddai,

a dywedwch wrthynt beth sydd yn digwydd ac am iddynt fynd i fyny i ochr y mynydd cyn gynted ag y gallant i ddal Jac os medr o gyrraedd y lan. Dowch chithau yn ôl yma, rhag ofn bydd eich eisiau."

Aeth Parry, ar redeg, a chlywid sŵn ei draed fel y rhedai trwy'r lefel ac ar hyd y llwybr a oedd wrth ochr y llyn yn yr ystafell gyntaf. Nid oedd dim amser i'w golli; yr oedd Jac Puw wedi cael gafael ar goeden dderw a oedd wedi gwreiddio ar ymyl y twll, ac yn ymestyn drosto. Yr oedd yn ceisio penderfynu a oedd yn ddigon cryf i'w ddal, ac yr oedd yn amlwg ei fod am roddi ei bwys ar y brigyn os tybiai y gallai wneud hynny'n ddiogel.

Caeodd yr Arolygydd a'r Sarjant eu llygaid am ennyd; yr oeddynt yn sicr y byddai'r dyn yn disgyn yr eiliad nesaf, a disgwylient glywed sŵn ei gorff yn