Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y golwg. Draw, ymhell o'u blaen, yr oedd y ddau blisman, Huws a Thomas, yn rhedeg i gyfeiriad twll y chwarel. Buasai'n anodd gwybod fod y twll yno oni buasai am yr ychydig dwf a oedd o'i gwmpas, a gweddillion y clawdd cerrig a godwyd rywdro i geisio cadw anifeiliaid rhag syrthio iddo. Ond gwyddai Aubrey a'i gymdeithion amdano, ac yr oeddynt yn cadw eu llygaid arno o hyd. Unwaith safasant a throdd Aubrey ei wydrau ar y lle; yr oedd Huws a Thomas erbyn hyn o fewn can llath i frig y twll.

"Edrychwch am eiliad, Bifan," meddai Aubrey, "yr ochr draw i'r darn clawdd acw. Oes yna rywbeth yn symud?"

Trodd yr Arolygydd y gwydrau ar y lle a nododd Aubrey. Edrychodd am ysbaid.

"Y mae o yna!" meddai'n gynhyrfus. "Y mae o'n gorwedd ar ei hyd ar lawr ac yn ymnyddu yn ei flaen yng nghysgod y clawdd a'r mân goed yna. Y mae'n amhosibl i Huws a Thomas ei weld o'r fan lle maen' nhw. Diaist i! Mi fedar eu gneud nhw eto os na dendiwn ni. Parry, rhedwch eich gorau i ddweud wrth y ddau pa ffordd i fynd, a thriwch chithau gael y blaen arno fo, rhag iddo fo fynd dros y grib."

Prin yr oedd yr Arolygydd wedi gorffen siarad cyn i Parry gymryd gwib ar hyd y llechwedd. Yr oedd ganddo gryn lawer o ffordd cyn dal y ddau arall, ond yr oedd yn hen gynefin â rhedeg ar hyd lleoedd gwaeth a mwy garw nag ochr Moel y Banadl, a gwelodd Aubrey a Bifan, wrth ei ddilyn yn arafach, ei fod yn agosâu yn gyflym at y ddau arall. Ai o'r golwg weithiau heibio gefnen o graig neu godiad tir, ond deuai i'r amlwg drachefn, yn rhedeg fel milgi. Yr oedd yn ymyl y ddau