"Yr oedd yn anodd i chi fod yn siwr o dan yr amgylchiadau, Parry," meddai'r Arolygydd. "A be' oedd y sgrech honno, os nad aeth o dros y dibyn?"
"Amcan honno," meddai Aubrey, ' oedd ein camarwain ni, a pheri i ni feddwl i fod o yn y llyn. Edrychwch yma."
Pwyntiodd Aubrey at le ar ymyl y dibyn, a throdd yr holl blismyn i edrych. Dywedodd yr Arolygydd rywbeth dan ei anadl.
"Welwch chi'r ôl traed yna?" meddai Aubrey.
Yr oedd pob un ohonynt yn gweled—ac yn deall. Yr oedd ôl esgidiau Parry yn glir ar y graig laith, yn ymyl y dibyn. Yr oedd yno ôl esgidiau eraill hefyd, hefyd, esgidiau a gwadnau rhwber, ond yr oedd ôl y rhai hynny ymhellach oddi wrth yr ymyl. Craffodd Bifan, a chafodd hyd i ôl arall, ôl eglur yr un esgidiau, ar fin y glaswellt. Yr oedd yn amlwg fod Jac Puw wedi troi yn ei ôl i'r mynydd ar ôl gwneud diwedd, fel y tybiai ef, ar y plisman.
"Dyna yr oeddwn i yn ei amau," meddai Aubrey. "Llithrodd yn ôl yn y niwl, mae'n sicr. Y mae ar y mynydd yn rhywle o hyd."
"'Does dim posib' i fod o wedi mynd ymhell, syr," meddai Parry, "achos mi gliriodd y niwl bron cyn gynted ag yr oeddwn i wedi mynd dros yr ymyl."
"Na, chafodd o ddim amser i ddianc," meddai'r Arolygydd. "Roeddan ninnau yn ymyl pan 'sgrechiodd o. 'Rwan, hogiau, y mae'n rhaid chwilio'r llechwedd yma ar unwaith, a byddwch yn ofalus iawn. Waeth gyno fo be' wneith o bellach. Ond y mae'n rhaid i ni gael gafael ynddo fo."
Rhanwyd y fintai fechan yn ddwy garfan a dechreuwyd