Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofrudd yn y Chwarel.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerdded y llechwedd o bobtu'r fan lle taflwyd Parry dros y dibyn. Nid oedd yno ddim i'w weled ond y mynydd, heb neb, i bob golwg, yn symud ar y llech- weddau yn unman. Tybed, meddai'r Arolygydd, fod Jac Puw wedi llithro o'n gafael wedi'r cwbl?

"Fedr yntau ddim gwneud gwyrthiau," meddai Aubrey, gan sefyll i fwrw trem graff ar ochr y mynydd, ac yr oedd o yma ychydig iawn o amser yn ôl. Y mae'n rhaid i fod o yma o hyd—yn rhywle."

"Ie," meddai'r Arolygydd, "yn rhywle!"

Ac ar hynny dyna floedd oddi wrth un o'r plismyn; yr oedd y dyn yn pwyntio i lawr y llechwedd, i'r cyfeiriad y daethant hwy ohono at y llyn. Trodd Aubrey a'r Arolygydd i edrych.

Wela'i ddim byd," meddai Bifan, ac ar yr olwg gyntaf credai Aubrey hefyd nad oedd yno ddim i'w weled. Ac yna gafaelodd ym mraich Bifan a phwyntiodd, heb ddywedyd yr un gair.

Craffodd Bifan ar y llechwedd; meddyliodd ar y dechrau nad oedd yno ddim yn symud na dim i'w weled ond y mynydd moel. Ac yna gwelodd symudiad llechwraidd yn ymyl carreg lwyd. Yr oedd fel pe buasai'r garreg ei hun yn symud, ond yn y fan daeth dyn i'r golwg. Yr oedd naill ai yn gorwedd ar ei hyd ac yn ymlusgo ar i waered neu yn crwcwd mor isel nes ymddangos fel pe'n gorwedd. Pr'un bynnag, yr oedd yn symud, ac yr oedd yn amlwg ei fod yn symud tua gwaelod y llechwedd. Fel yr oedd Aubrey a'r plismyn yn ei wylio, llithrodd y tu ôl i faen mawr arall a diflannodd drachefn.

'Does dim amheuaeth," meddai Aubrey. "Y mae'n rhaid ei fod o wedi sleifio heibio i ni cyn i'r