niwl godi ac wedi llithro i lawr i'r fan yna tra buom ni yn rhoi ein holl sylw i gael Parry i ddiogelwch. Y mae'n rhaid mynd ar ei ôl rwan."
"Ar unwaith," meddai Bifan, a threfnodd ei ddynion fel ag i geisio rhwystro'r ffoadur rhag dianc ar y naill law na'r llall. Ac yna rhedasant i lawr y llechwedd.
Yr oedd yn rhaid fod Jac Puw yn eu gwylio o'r tu ôl i'r garreg fawr, canys cyn gynted ag y troisant hwy ar i waered, cododd yntau ar ei draed a rhedodd i lawr y llechwedd, heb geisio ei guddio ei hun mwy. Yr oedd eisoes ymhell ar y blaen, ac ymddangosai siawns y plismyn i'w ddal yn un pur wan. Rhedasant eu gorau, er hynny, ac erbyn hyn yr oedd y ffoadur yn eu golwg y rhan fwyaf o'r amser. Diflannodd unwaith neu ddwy y tu ôl i feini mawr, ond nid oedd yno ymguddfan barhaus iddo, a deuai i'r golwg drachefn, yn rhedeg fel milgi erbyn hyn.
"Ddaliwn ni byth mono fo!" meddai un o'r plismyn, wedi llwyr ddiffygio, ond fel yr oedd yn dywedyd hynny dyna'r Arolygydd yn rhoddi ei ffliwt wrth ei wefusau, a dyna'r chwibaniad uchel, hir, yn diaspedain trwy'r cwm.
"Sut na buaswn i wedi meddwl am hynna ynghynt," meddai Bifan yn ddig wrtho ei hun.
Syniad da," meddai Aubrey, "ond peidiwch gweld bai arnoch eich hun. Y mae pob un ohonom wedi hen flino, ac y mae'n syn ein bod ni cystal. Hylo! Y mae Jac Puw yn ddig, 'ddyliwn."
Yr oedd y ffoadur wedi dyfod allan o gysgod carreg arall ac wedi troi a chau ei ddyrnau yn fygythiol ar ei ymlidwyr pan glywodd y chwibaniad. Yr oedd her a thymer ddrwg yn ei agwedd, ond ni wastraffodd fawr