o amser ar roddi mynegiant i'w deimladau. Trodd a rhedodd yn gyflymach nag o'r blaen ar hyd y llechwedd. Ni pheidiodd y plismyn a rhedeg, ychwaith, ond gwelent nad oeddynt yn ennill dim ar y ffoadur.
Chwibanodd yr Arolygydd drachefn, yr arwydd fod ar y plismyn angen cynorthwy, y tro cyntaf erioed, y mae'n sicr, i'r sŵn hwnnw dorri ar ddistawrwydd a heddwch y mynydd. Ac yna gwelsant y ffoadur yn rhoi tro sydyn, fel pe buasai yn meddwl am droi yn ôl. Neidiodd drachefn i gyfeiriad carreg lwyd fel darn o hen gromlech—ond yr oedd yn rhy ddiweddar. Yr oedd dyn arall wedi codi o'i flaen, fel pe buasai yn dyfod o grombil y mynydd, ac wedi gafael ynddo. Gwelodd y dynion a oedd yn uwch i fyny ar y llechwedd y ddau ar eu hyd ar lawr, mewn ymdrech galed.
"Diolch am Roberts!" meddai Bifan, yn rhedeg ei orau ac yn ymladd am ei anadl. " Wyddai Jac Puw ddim ein bod ni wedi'i adael o efo Huw Llwyd wrth geg y chwarel."
Nid oedd ond mater o eiliadau bellach. Yr oedd Jac Puw a Sarjant Roberts mewn ymdrechfa galed ar y llechwedd, ond yr oedd Roberts yn gymharol ddiflin, ac yn ddyn cryf a medrus. Pan ddaeth y lleill atynt yr oedd wedi llwyddo i gael Puw odditano ac yn gafael yn dyn yn ei freichiau. Rhoddodd yr Arolygydd y cyffion am arddyrnau Puw. Yr oedd ymdrech y ffoadur ar ben.
"Ewch ag o i lawr," meddai'r Arolygydd wrth ddau o'r plismyn. Nid oedd y llofrudd wedi dweud yr un gair hyd yn hyn, ond pan welodd Parry a'i ddillad wedi eu rhwygo, dywedodd, "'Roeddwn i'n meddwl dy fod ti yn y llyn." Ac yna trodd ymaith, a'r ddau