blisman yn gafael yn ei freichiau. Nid oedd yn debyg o gael cyfle i ddianc drachefn. Ac nis cafodd.
"Lwc i chi chwibanu, syr," meddai Sarjant Roberts wrth yr Arolygydd. "Toeddwn i ddim wedi breuddwydio y buasai fo'n dwad yn i ôl y ffordd yma. Mi allasai fod wedi mynd heibio i mi cyn hawsed â dim. Pan glywais i'r ffliwt mi ddois i fyny am dipyn ar hyd y llethr i weld beth oedd yn bod, ac mi ddoth Jac Puw yn syth i' nghyfarfod i. Mae'n siwr nad oedd o ddim yn gwybod fod yma neb."
"Nac oedd, mae'n siwr," meddai Aubrey. "Roeddwn i'n amau mai am y chwarel yr oedd o'n 'nelu. Y mae'n debyg i fod o'n credu na buasem ni ddim yn meddwl am chwilio yno drachefn. 'Roedd yn dda ein bod ni wedi 'i weld o a'ch bod chithau yno, Sarjant."
"Ei anlwc mawr o oedd fod y niwl wedi codi pan wnaeth o," meddai Bifan. "Pe buasai hwnnw wedi parhau mi allasai fod wedi cael yn glir â ni wedyn."
Am ryw hyd," meddai Aubrey, "ond buasem yn siwr ohono yn hwyr neu hwyrach. Beth am Huw Llwyd, druan, erbyn hyn?"
Ac ar hynny trodd y fintai fechan, luddedig, eu hwynebau tua gwaelod y llethr. Yr oedd yn fore gogoneddus, ond yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn rhy luddedig ac yn rhy newynog i sylwi ar hynny. Erbyn cyrraedd unwaith eto at chwarel Bwlch Glas, cawsant Huw Llwyd yn smocio yn dawel wrth enau'r lefel ac yn disgwyl amdanynt.
"Fuo 'na helynt wedyn?" meddai'r ffarmwr. "Be' ddigwyddodd i Jac Puw?"
"'Roedd yn lwc i chi fod Sarjant Roberts wedi ateb yr alwad," meddai Bifan, "neu mi fuasech wedi cael