Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llofruddiaeth Caerfyrddin, Thomas yn cael ei grogi; Carmarthen murder, the execution.djvu/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llofruddiaeth Caerfyrddin
Thomas yn cael ei Grogi.

Cymerodd yr olygfa olaf yn y stori waedlyd uchod le yn Ngharchar Caerfyrddin am wyth o'r gloch boreu dydd Mawrth, Chwefror 13, 1894. Wedi y prawf, ceisiwyd atal y ddedfryd drwy apelio at yr Ysgrifenydd Cartrefol, (ond yn ofer; ac felly cariwyd allan pob parotoad er cyflawniad y gyfraith. Ymddangosodd y carcharor yn hollol ddigyffro, a gwynebodd ei ddiwedd heb yr ymddangosiad lleiaf. Nid oedd neb yn bresenol ar yr achlysur ond y swyddogion.

Tra y codai haul y boreu,
Adar bach a byncient gân,
Prydferth oedd holl weithiau natur,
Pawb yn moli, mawr a mân;
Ond yn nywyll cell y carchar
Mae rhyw ddyn mewn trybliog hun,
Tra breuddwydion erch ac hagr
Rhedant trwy ei feddwl blin.